mewn llais distaw o'r hyn a welodd ac a glywodd. Mynegodd ei hofn, os nad atelid hwy, y byddai i'r dynion ieuainc a'r gwynebau maleisddrwg gerllaw gyflawni rhyw anfadwaith dychrynllyd, os na thywalltent waed a chymeryd bywyd.
A hi eto'n llefaru, rhuthrodd deg neu ddeuddeg o'r dynion y cyfeiriai atynt ar garlam heibio iddi yng nghyfeiriad y pregethwr, gan floeddio a wbain ac udo fel nifer o wallgofiaid. Gwelodd y cawr ieuanc y sefyllfa mewn amrantiad, ac heb oedi hyd yn oed i egluro ei fwriad i'w dad, llamodd yn llythrennol ar ol y giwaid, a gwthiodd ei hun drwy eu canol gan gyrraedd y llwyfan mewn pryd i wynebu arweinydd y gethern, yr hwn oedd yn y weithred o godi ei law ac anelu ei lawddryll at Cradoc. Heb yngan yr un gair gafaelodd yng ngwarr y dyhiryn, cododd ef gryn lathen a hanner oddiar ei draed, a thaflodd ef, fel taflu tywarchen, trwy yr agoriad tu ol iddo i fôn y, clawdd. Cynddeiriogodd aelodau ereill yr haid i'r fath raddau pan welsant hyn, fel y rhuthrodd y gweddill yn un corff ar y pregethwr a'i amddiffynydd. Edrychai pethau yn ddifrifol o fygythiol am funud neu ddwy. Ond gan fod y pregethwr yn digwydd bod mor gryf o gorff ag oedd feiddgar ei ysbryd, trodd at ei ymosodwyr, a chan efelychu ymddygiad ei amddiffynydd, gafaelodd yn eu gwarrau bob yn ddau â'i ddwylaw cryfion, a thaflodd hwy yn ddiseremoni allan trwy'r un agoriad a'u harweinydd, fel pe baent nifer o blant drygionus wedi beiddio codi yn erbyn eu meistr yn yr ysgol. Wedi iddynt glirio'r terfysgwyr, edrychodd y pregethwr a'r dyn ieuanc oedd, yn ol pob tebyg, wedi achub ei fywyd, ar eu gilydd am eiliad, a dywedodd y blaenaf mewn llais. hollol ddigyffro,—
"Os arhosi di yn y fan yma am ychydig, gyfaill, mi orffennaf i fy mhregeth."
Atebodd y dieithrddyn ar unwaith y gwnai felly, ac aeth Cradoc ymlaen â'i genadwri fel pe na bai dim wedi digwydd. Ond er iddo ail afael yn ei gynulleidfa mewn modd rhyfeddol a chael y fath hwyl wrth gymhwyso gwirioneddau mawrion yr Efengyl at eu cydwybodau, nes yr anghofiodd y dorf, am y tro, yr ymosodiad ar ei fywyd, ni thynnodd Meistres Kyffyn ei llygaid am foment oddiar y dyn ieuanc ruthrodd ar ei chais hi i wyneb y fath dorf o ddyhirod llofruddiog, ac a brofodd ei hun yn