"DYNION dwad" oedd Syr Urien Owain a'i fab yng Ngwent. Hyd o fewn blwyddyn neu ddwy i ddechreuad hyn o hanes, yr oedd Syr Urien wedi byw bywyd dyn cyhoeddus, a dyn prysur, yn Neuadd Urien. ar ystâd henafol ei deulu yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Fel mwyafrif mawr tirfeddianwyr Cymru yn yr amseroedd hynny, yr oedd Syr Urien yn deyrngarol i'r llythyren. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny i gredu fod Brenhiniaeth o ddwyfol ordinhad, ac nas gallasai'r Brenin wneyd anghyfiawnder. 'Roedd y ffaith ei fod wedi llwyddo i feithrin a chadw y gred hon trwy gydol teyrnasiad Iago, a rhan helaeth o eiddo Siarl, yn dangos mor argyhoeddiadol oedd o'i gwirionedd. Ni wnaeth dynoethiadau John Pym a'i gydlafurwyr ond ei gynorthwyo i ddarganfod mwy o rinweddau yn Siarl a'i athrawiaeth nag a welodd o'r blaen, ac y mae yn fwy na thebyg y buasai wedi byw a marw yn gredwr diysgog yn iawnder pob gweithred ac athrawiaeth frenhinol, oni bai am ymddygiad anheilwng Siarl at ei gyfaill personol, yr Archesgob Williams.[1] Pan welodd pa mor rhwydd y gallai y Brenin ddweyd un peth a gwneyd peth arall mewn cysylltiad â dyn fel Williams, dechreuodd ei ffydd mewn anffaeledigrwydd. brenhinol wanhau.
Yn y cyflwr meddwl hwn yr oedd pan ddychwelodd ei fab Ifor adref o Gaergrawnt. Fel llawer o Gymry cyfoethog yr oes yr oedd Syr Urien wedi anfon ei fab i Peterhouse, ac er fod sawl cenhedlaeth wedi mynd a dyfod trwy yr hen goleg enwog er pan fu John Penri yno, yr oedd y traddodiadau Penriaidd wedi cael eu trosglwyddo o un do i'r do ddilynol gyda ffyddlondeb rhyfeddol. Ac yr oedd yna nifer o fyfyrwyr bob amser yn Peterhouse,— Cymry gan mwyaf,—yn dal syniadau Penri, ar lawer o bynciau pwysig, ac yn wir yn eu lledaenu. Daeth Ifor Owain i gysylltiad agos ac uniongyrchol â'r rhai hyn bron yn union ar ol ei ddyfodiad i'r lle, a pharhaodd yn un ohonynt trwy ei arhosiad.
Y canlyniad fu iddo ddod i gysylltiad â rhai o ddynion ieuainc