o'i flaen, wedi dyfod i'w gyfarch ef a rhyw ddwsin o'i gyfeillion. Methai, am ychydig, a sylweddoli ei sefyllfa. Cofiai fod ei dad, wrth ddesgrifio ymddanghosiad personol y bardd, wedi defnyddio iaith, a ystyriai ef ar y pryd, yn eithafol, ond wrth sylwi arno y noson honno, gwyddai na ddefnyddiodd yr un gair na ddylasai, ond yn hytrach fel arall. Teimlai fod llygaid Milton yn edrych drwyddo. Nid oedd wedi gweld y fath lygaid yn ei fywyd. Yr oedd eu maint, eu disgleirdeb, ac yn enwedig eu treiddgarwch, yn hollol eithriadol. Er fod yna rywbeth yn eu trem arferol oedd yn peri iddo feddwl am freuddwydion, a gweledigaethau, a cherddoriaeth, ac eangderau, a thragwyddoldebau, yr oedd ynddynt hefyd rai pethau a barai iddo weld mellt yn cysgu yn eu cornelau, a fflamiau deifiol yn nythu yn eu cysgodion.
Fel cadeirydd y clwb, disgynnodd i'w ran i roesawu yr ymwelydd, ac i ofyn am iddo eu hanrhydeddu âg anerchiad.
Digwyddai'r ymweliad fod ar adeg gynhyrfus yn hanes y wlad, feallai yr adeg bwysicaf yn ei holl hanes. Mai dyna farn Milton a wnaed yn amlwg cyn iddo lefaru am dair munud. Fel un a ddaethai i gysylltiad personol â hwy, ac a'u clywsai yn egluro eu golygiadau ar bob math o achlysuron dirgelaidd a chyhoeddus, rhoddodd hanes a desgrifiad o amcanion arweinwyr byddin Rhyddid fel y cynrychiolid hwy yn ymdrech y Seneddwyr yn erbyn honiadau y Brenin, ac yn ymdrech y Piwritaniaid yn erbyn trahausdra yr Archesgob Laud. Wrth ddesgrifio gwaith, amcanion, a golygiadau dynion fel Pym a Hampden, Prynne, Cromwel ac Eliot, yr oedd dyfnder a chryfder ei argyhoeddiadau, eangder ei syniadau, a brwdfrydedd ei ysbryd, yn gyfryw fel y cariodd yr holl glwb gydag ef yn ddieithriad.
Daeth Meistr Ifor adref ar ol yr ymweliad hwnnw â'i hen goleg, yn "ddyn arall." Mor angerddol y teimlai o blaid yr achosion a'r personau y dadleuai Milton drostynt, fel y gadawsai ei wlad a'i gartref ar unwaith er mwyn ymuno â'r sawl oedd yn ymdrechu ac aberthu o'u plaid, oni bai am henaint ac unigrwydd ei dad.
Dyma yr adeg pan oedd pendefigion Cymru, yn ddieithriad, yn ffurfio catrodau ym mhob rhanbarth o'r wlad er mwyn cynorthwyo Siarl i wrthwynebu'r Senedd. Y fath oedd teyrngarwch y genedl Gymreig y pryd hwnnw i'r Brenin fel yr oedd yn berygl bywyd i neb yngan gair o blaid y Pengryniaid.