na'r Piwritaniaid. Teimlai Meistr Ifor, nid yn unig nas gadawai ei gydwybod iddo uno â'r catrodau a ffurfid ac a ddisgyblid gan hen gyfeillion a hen gymdogion ei dad, ond mai ei ddyledswydd oedd ffurfio catrawd ei hun i ymladd o blaid y Senedd. Mae'n debyg y buasai wedi gwneyd hyn, neu gynnyg ei wasanaeth i Iarll Essex yn Lloegr, oni bai i farwolaeth gymeryd lle o fewn. cylch ei berthynasau, fu yn foddion i gyfnewid holl gwrs ei fywyd. Pan oedd ei dad ac yntau yn ymgynghori â'u gilydd un bore pa gwrs i'w gymeryd, yng ngwyneb ymddygiadau gelyniaethus eu cymdogion tuag atynt, oherwydd nad ymunent â hwy i gynnal awdurdod y Brenin, daeth llythyr i law'r Barwnig o ddinas Caerlleon, Gwent, yn hysbysu fod ei gyfnither, Meistres Williams, Glan y Don, wedi marw, ac wedi gadael ei thŷ a'i gynnwys, ac ystad fechan ar lan yr Wysg iddo ef a'i etifeddion yn rhodd ddiamodol. Safai'r tŷ henafol a phrydferth yn ymyl pont Caerlleon, ar y llaw chwith wrth deithio o Casnewydd. Bu ei thylwyth yn byw ynddo er dyddiau Owain Glyndwr, ac ni fu llawer o ddigwyddiadau yn hanes Gwent na chymerodd y Williamsiaid ran amlwg ynddynt.
Edrychodd y ddau ddyn ar y digwyddiad hwn fel gweithred o eiddo Rhagluniaeth, a phenderfynasant adael Neuadd Urien am dro, a mynd i breswylio i Lan y Don, Mynwy, nes y byddai pethau wedi llonyddu ychydig yng Nghaerfyrddin a Phenfro. Yr oedd yn amhosibl i berchen meddwl ymchwilgar fel eiddo Meistr Ifor Owain fyw yn hir yng Ngwent, mwy nag yng ngwlad Myrddin a Chaergrawnt, heb ddod i gysylltiad â pherchenogion meddyliau cyffelyb. Felly yr oedd yn berffaith naturiol i un o'i fath, pan glywodd am yr Hybarch William Wroth, a'i hanes, a'i waith, i fynnu ei weld, a'i glywed drosto'i hun. Dyna ddaeth ag ef a'i dad i Lanfaches y diwrnod a ddesgrifir yn y bennod flaenorol.
Ar ol y digwyddiad cyffrous i Meistres Delyth Kyffyn, yr oedd braidd yn amhosibl iddo beidio dod i agosach cysylltiad à hi. Ac er fod ei holl enaid yn cashau Pabyddiaeth, daeth i deimlo rywfodd ar ol galw droion yn yr hên Gastell i holi helynt yr arwres glwyfedig fu'n foddion i achub ei fywyd, fod gwahaniaeth rhwng Pabyddiaeth a Phabyddes. Trwy aml ymddiddan â merch y Cwnstabl am bob math o bersonau, pynciau a phethau, ni bu yn hir oyn darganfod ei bod yn ddynes ieuanc a feddyliai.