drosti'i hun, yn darllen popeth ddoi i'w chyrraedd, ac yn caru gwirionedd uwchlaw popeth.
Yr oedd mor wahanol i fwyafrif y boneddigesau ieuainc oedd ef yn gydnabyddus â hwy, fel yr oedd dylanwad ei chwmni a'i hymddiddan yn effeithio arno fel awyr y bryniau ar ysbryd llesg y dyffrynwr. Dadleuai am oriau gydag ef cyn y rhoddai i fyny unrhyw opiniwn a goleddai, ac ymosodai ar rai o'i olygiadau ef yn awr ac yn y man gyda'r fath stôr o resymau a ffeithiau, fel mai prin y gallai ddal ei dir. Wrth ei chymharu yn y pethau hyn â'r merched ieuainc yn ei gymdogaeth ei hun, gorfodid ef i'w rhoddi hi ar binacl anrhaethol uwch na'r fwyaf hyddysg yn eu mysg. Fel rheol, treuliai y rhai hyn eu hamser i gymeryd arnynt chware yr organ dannau, i fynychu mwgwd-ddawnsiau yn neuaddau y naill y llall, a bod yn llygad-dystion o ymladdfeydd ceiliogod a hedfeydd hebogiaid. Nid oedd ond ychydig ohonynt yn hyddysg yn llenyddiaeth eu gwlad. Yn wir, yr oedd nifer helaeth ohonynt na fedrent ysgrifennu ond yn elfennol iawn. Nid oedd Meistres Kyffyn yn Babyddes oherwydd fod ei thad yn Babydd, ac oherwydd ei bod wedi ei haddysgu mewn lleiandy Yspaenaidd. Hyd yma yr oedd yn proffesu Pabyddiaeth am ei bod yn argyhoeddedig ar ol darllen, a meddwl, ac ymresymu hyd eithaf ei gallu mai Eglwys Rufain oedd y wir eglwys; ac o ganlyniad mai hereticiaid a sismaticiaid oedd yr holl Gristionogion ereill. Yn wahanol i fwyafrif mawr Pabyddion yr oes honno, cymerai fantais ar bob cyfle o fewn ei chyrraedd i fynnu gweld a chlywed beth oedd yn cael ei wneyd a'i ddweyd gan Gristionogion Protestanaidd. Ac ymdrechai bob amser i bwyso a mesur y pethau hyn yn hollol ddiragfarn. Y canlyniad oedd ei bod ar yr adeg y daeth Meistr Ifor Owain yn adnabyddus iddi wedi gweld a chlywed pethau fwy nag unwaith fu'n foddion i siglo ei theyrngarwch i'r Pab, ac i beri iddi addef wrthi ei hun ei fod yn bosibl y gallai rhai Cristionogion nad oeddent Babyddion fod yn onest, yn gydwybodol, ac yn wir ddeallgar. Ar ol y diwrnod yn Llanfaches, a'r ymddiddan fu rhyngddi â Ifor yn ddiweddarach, ar faterion pregethau Wroth a Cradoc, addefodd hyn yn gyhoeddus fwy nag unwaith, ac wrth wneyd hynny, dychrynnodd ei thad i'r fath raddau fel y penderfynodd fod yn rhaid i ymweliadau y dyn ieuanc o Lan y Don â'r Castell derfynu, ac fod y cyfeillgarwch oedd rhyngddo â'i unig ferch yn rhy beryglus iddo ganiatau ei barhad.