Pennod V.
AETH rhai misoedd heibio ar ol i'r Cwnstabl Kyffyn ffurfio ei benderfyniad, ac yn ystod yr amser ni chafodd y bobl ieuainc yr un gipdrem y naill ar y llall. Mabwysiadodd Ifor bob dyfais allasai feddwl am dani er ceisio cael gwybod i ba le yr oedd Meistr Kyffyn wedi anfon ei ferch, ond methodd a chael gair o oglurhad, na'r un arwydd o gyfarwyddyd o un cyfeiriad.
Er nas gadawodd yr un diwrnod yn ystod y misoedd meithion hyn i fynd heibio heb wneyd rhyw fath o ymchwiliad am y ferch oedd erbyn hyn yn anwyl iddo, ni chyfyngodd ei weithgarwch i'r ymchwiliadau hyn mewn un modd. Yn y cyfamser, daeth i gyffyrddiad âg amrai o foneddigion ieuainc o safle yng Ngwent a Morgannwg oedd yn coleddu yr un syniadau ag yntau ar brif bynciau'r dydd, ac yn paratoi eu hunain ar gyfer yr adeg pan fyddai galw am eu gwasanaeth mewn rhyw ffurf fwy arwrol na thrwy ddatgan yn gyhoeddus pa beth oedd eu barn. Arferai y dynion ieuainc hyn gyfarfod yn aml, eithr yn ddirgel, yn nhŷ un Sesyl Ifan yn Llandaf. Nid oedd Meistr Sesyl yn bendefig, nac yn fab i un, ond yr oedd ganddo breswylfod dan gysgodion deri mawrion Llandaf y buasai aml i bendefig pur adnabyddus yn yr oes honno yn falch o'i feddu. O ran safle, maint, a phrydferthwch, cyfrifid cartref Sesyl Ifan yn un o'r rhai gore ym Morgannwg.
Fel llawer o'i gymdogion yn Llandâf, a Chaerdydd, a Sant Ffagan, yr oedd cydymdeimlad, Meistr Sesyl yn llwyr gyda'r Seneddwyr, a phe buasai ugain mlynedd yn ieuengach, ymunasai â Iarll Essex i ymladd, os byddai raid, dros hawliau'r bobl, a rhyddid crefyddol. Gan ei fod yn rhy hen i wneyd hyn, penderfynodd wneyd rhywbeth arall fuasai'n llawn cymaint of gynhorthwy yn y pen draw i'r achos a garai. Trwy gyfrwng un o gymeriadau rhyfeddaf a hynotaf ei oes, gwyddai yr hen foneddwr hanes pawb a phopeth fyddai yn cymeryd lle am filltiroedd oddi amgylch. Gwyddai pwy oedd y Teyrngarwyr