Am foment neu ddwy, wyddai ein gwron ddim pa un ai ffromi ai chwerthin wnai. 'Roedd wedi cael ei ddigyfrwyo mor ddiseremoni, mor hollol ddidrafferth. Wrth gwrs, pan gafodd amser i sylweddoli beth oedd wedi cymeryd lle, a pha fodd, chwarddodd yn galonnog, a gofynnodd,—
"Ble ce'st ti afael ar y fath ddiafol o geffyl, Wil?"
"Diafol o geffyl! Twm yn ddiafol! Galw ef yn angel, angel gwarcheidiol, a byddi'n agosach i'th le."
Gan y gwyddet beth allai wneyd â'th ymosodwyr, pam y gadewaist hwy i ddianc?"
"Am fod yn well gennyf eu lle na'u cwmni."
"Digon tebyg, ond yr oeddent yn anelu am dy fywyd."
"Yn ddiddadl. Ar yr un pryd y mae gennyf resymau cryfion dros eu gadael i ddianc yn ddigosb y tro hwn, yn enwedig gan i ti ddod i'r fan a'r lle."
"Beth oeddent yn geisio gennyt, Wil?"
"Llythyr!"
"O!"
"Gwyddent fy mod i ddychwelyd ar hyd y ffordd hon heddyw neu yfory, ar ol ymweliad dros fy meistr â Syr Huw Herbert, ac y byddai ei atebiad i gwestiwn pwysig yn fy meddiant. A daethant ar gais arweinwyr y blaid Frenhinol yn y sir i geisio cael meddiant o'r llythyr."
"Ydyw'r ymgyrch rhwng Siarl a'r Senedd yn parhau o hyd. Wil?"
"Mae ar fin torri allan yn rhyfel."
"Llythyr yn dal cysylltiad â'r cweryl yw dy lythyr?"
"Ie."
"Aros di, yr oedd yna ddau leidr' yn ymosod arnat. Pwy ddywedaist ti oedd y llall?"
"Hywel Kyffyn, nai Cwnstabl Castell Casnewydd. Tipyn o swyddog milwrol, oedd yn byw y rhan fwyaf o'i amser, hyd yn ddiweddar, yn nhafarndai'r dref. Ryw flwyddyn yn ol daeth. Breddyn Kemys ac yntau yn gyfeillion, ac y maent yn anwahanedig byth oddiar hynny. Wedi iddynt fethu dy saethu di ac ereill yn Llanfaches, a chael pardwn yr awdurdodau am wneyd y cynnyg, maent wedi bod yn gweithio yn brysur er gwneyd i fyny am y sarhad roed arnynt, trwy grynhoi holl segurwyr y