trwy'r holl gythrwfl, ac ni chymerodd ddwy funud o amser i sylweddoli fod Meistr Ifor Owain a rhyw gydymaith rhyfedd wedi dod i'w gwaredu.
Ond yr oedd ei thad nid yn unig wedi colli ei hunanfeddiant, ond ei ymwybodolrwydd. Rhwng ei ddigllonedd wrth feiddgarwch ei ymosodwyr, ei bryder ynghylch ei ferch, tewder ei gorff, a byrder ei wddf, aeth i'r fath sefyllfa barlysaidd, nes y tybiodd ei ferch pan ddychwelodd i'r cerbyd ei fod wedi marw. Yr oedd ei wyneb yn lasgoch, ei gorff yn syth ac anhyblyg, a'i lygaid yn sylldremio ar ddim. Wedi deall popeth a wnelid, a phwy oedd yn gweithredu, penderfynodd Delyth aros yn llonydd. nes y cyrhaeddent y dref, neu rywle diogel ar y ffordd yno. Diflannodd ei holl ofnau ar unwaith pan welodd Meistr Ifor Owain yn cymeryd pethau i'w law. Synnai mor lwyr a naturiol oedd ei hymddiried ynddo. Beth ond Rhagluniaeth a'i harweiniodd i'r lle ar y fath amgylchiad. Fedrai ei thad, os cai ei adfer, ddim parhau yn elynol iddo ar ol hyn. Byddai yn ddyledus iddo am ei fywyd; ac am rywbeth mwy gwerthfawr a chysegredig na bywyd ei ferch, ac nis gallai yn anrhydeddus wrthod gadael iddo ymweld â'r Castell fel o'r blaen. Yr oedd rhagolwg y posibilrwydd hwn mor ddymunol fel, er gwaethaf y sefyllfa ddychrynllyd oedd newydd ddianc o honi, a pherygl mawr ei thad yn ei hymyl, nas gallai y ferch dwymgalon lai na diolch yn ddifrifol i Ragluniaeth am fod pethau fel yr oeddent. Yr oedd bwriadau Breddyn Kemys, a'i chefnder drygionus, yn dechreu mynd yn beryglus. Yr oedd eu gwaith yn troi'n Babyddion wedi agor ei llygaid yn llawn i ddyfnder a beiddgarwch eu cynlluniau. Arswydai wrth feddwl am fod yn wraig i'r fath adyn a Breddyn. A beth bynnag ddwedai'r offeiriad am y pechod o briodi gwrth-Babydd,—os priodai o gwbl, priodai bagan cyn y priodai y fath ddiafol ymgnawdoledig a dewis-ddyn prosennol ei thad. Ymddanghosai yn ddigon naturiol iddi feddwl am y pethau hyn tra'r oedd y cerbyd yng ngofal Meistr Ifor Owain yn cael ei yrru'n ddiogel a chyflym tua'i chartref. Bu'r Cwnstabl ddyddiau lawer cyn dyfod ato'i hun ar ol y noswaith enbyd honno. Er i brif apothecari'r dref ei waedu droion, a gosod llawer geloden wrth ei arleisiau, bu'n hir cyn ysgwyd effeithiau'r ymosodiad ymaith, ac adfeddiannu ei nerth.