Tudalen:Ifor Owen.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad yn gilwgus. I ddiarfogi eu drwg-dybiaeth, a symud eu hofnau, tynnodd Wil Feibl Coron allan o dan ei glogyn milwrol, a throdd at y bennod oedd Wroth yn ddarllen, a dilynodd ef yn. ddefosiynol hyd y diwedd. Beth bynnag oedd amcan gwreiddiol Kemys a Kyffyn wrth ddod i'r cyfarfod, ataliodd presenoldeb y swyddog milwrol arfog hwy i'w gario allan. Wedi sibrwd rhyw bethau wrth eu gilydd, aethant allan gyda bod y pregethwr yn dechreu ei bregeth, ac er syndod i bawb, cododd y swyddog milwrol ymhen rhyw dair munud yn ddiweddarach a dilynodd hwy. Bellach, gwnaeth Ifor ei feddwl i fyny i wrando cenadwri'r pregethwr, a thaflu cipolwg yn awr ac yn y man i gael gweld pa fodd yr oedd y Babyddes ieuanc yn gwrando. Credai ei fod wedi gweld arwyddion fwy nag unwaith fod apeliadau cryf yr efengylydd at ei wrandawyr i feddwl drostynt eu hunain, i chwilio'r Ysgrythyrau eu hunain, i fynnu gafael ar y gwirionedd er pob ymdrech i'w rhwystro, ac ar ol cael gafael arno, i sefyll ato hyd farw, yn cael effaith dwfn ar ei meddwl. 'Roedd ganddo bellach gryfach gobaith nag erioed y doi ei anwylyd i'r goleu cyn hir. Gan ei bod yn parhau i chwilio beunydd am arweiniad, yn mentro pethau mawr er dod o hyd i'r gwirionedd, ac o ansawdd meddwl nas gallai orffwys nes gwybod yr oll oedd yn bosibl i'w wybod, ar unrhyw fater, credai ei bod yn rhwym, yn ol deddf tragwyddol pethau, o weld trwy a thu cefn i'r ofergoelion oeddent yn cymylu ei meddwl ar hynny o bryd. Felly, pan aeth adref y noson honno, wedi gweld Delyth a'i chydymaith yn ddiogel y tu fewn i borth mawr y Castell heb ddangos ei hun, a chwilio'n ofer mewn dau neu dri o fannau am Wil Pilgwenlly a'r ddau ddyhiryn oedd efe yn eu gwylio, teimlai y gallai ganu nes deffro o'u beddau yr hen Rufeiniaid a hunent yn lluoedd o gwmpas Caerlleon, a denu pob adsain oedd yn cysgu ar lechweddau Twyn Barlwyn. draw i ail-ganu ei gân.