yn Llundain gyda golwg ar ba gwrs i gymeryd pe digwyddai i'r Pengryniaid gael yr oruchafiaeth ar y Brenin.
Ymysg ereill, aeth Ifor Owain i weld yr orymdaith. Synwyd. ef yn fawr wrth ganfod cynifer o bobl gyfrifol yr ardal yn cerdded ochr yn ochr â thlodion penna'r lle; ac yn fwy fyth wrth weld personau o gyrhaeddiadau meddyliol uchel yn cydgerdded â'r bwbachod eiddilaf ar lun dynion o fewn cylch ei adnabyddiaeth," pob un a'i ganwyll yn ei law," ac yn gwneyd ei oreu i ganu rhigwm yr orymdaith am rinweddau y "Fendigedig. Forwyn Fair."
Pan yn chwerthin yn galonnog am ben rhyw ddymuniad ofergoelus yn y gân—weddi, a'r modd digrif y mynegid ef gan iolyn difenydd a adnabyddai yn dda, bu bron iddo ymdagu ynghanol ei ddifyrrwch wrth ganfod Meistres Delyth Kyffyn a chanwyll fawr yn ei llaw ynghanol yr orymdaith. Rywfodd,— nis gwyddai paham,—nid oedd wedi breuddwydio am ei gweld hi yn y fath gwmni, a phan gafodd y gipolwg gyntaf arni, braidd na thueddai i'w diystyrru fel creadures rhy anobeithiol o anwybodus iddo allu ei pharchu yn hwy. Ond rhyw gynhyrfiad. munudyn oedd y tueddiad hwn, canys gwelai oddiwrth ei hwyneb. ei bod yn hollol ddifrifol parthed y rhan a gymerai. Mor ddwfn-ddifrifol yn wir, fel na chymerodd y sylw lleiaf o'i bresenoldeb ef, er iddi bron a'i gyffwrdd wrth fynd heibio. Cyn iddo gael munud o amser i wneyd ei feddwl i fyny pa un a ddilynai y dorf i gyfeiriad Sant Gwynlliw i gael gweld beth ddoi o Delyth pan dorrid yr orymdaith i fyny, tynnwyd ei sylw gan hen fynach llwyd ei olwg, a blin ei agwedd, yn cario torch bŷg fawr, ac yn cerdded bron ar sodlau y rheng ym mha un y cerddai merch y Cwnstabl. Edrychodd am funud i wyneb Ifor wrth fynd. heibio, a gwelodd, er gwaethaf y wisg ryfedd oedd am dano, nad oedd neb amgen na Wil Pilgwenlly. Pan ar hanner gofyn. iddo ei hun "beth fydd y rhyfeddod nesaf, wys?" trodd" y mynach" yn ei ol yn sydyn, a gwnaeth amnaid arno. Heb i neb ei weld rhoddodd ddarn o bapur yn ei law, ac aeth yn ei flaen gyda'r dorf. Ar y papur yr oedd wedi ysgrifennu,—
"Mae arnaf eisieu dy weld ar fater pwysig. Ar ol cyrraedd pen y rhiw dof yn fy ol. Aros am danaf wrth borth isaf yr eglwys." Yr oedd Wil, gyda'i droion rhyfedd, ei symudiadau dirgel, ei bresenoldeb ym mhob math o leoedd, ei gampau anhygoel,