IFOR OWAIN. 53 arabedd ei lafar, a'i allu bron diderfyn i gymhwyso ei hun at bob math o sefyllfa, yn syndod parhaus, os nad poenus, i Ifor. Methai yn lân a rhoddi cyfrif boddhaol iddo ei hun am dano. Gwyddai ei fod yn fath o ddirprwywr i Sesyl Ifan, Llandaf, ac fod y dyn da hwnnw yn rhoddi yr ymddiried llwyraf ynddo, ac yn ymddwyn tuag ato fel cyfaill a chymrawd. Gwyddai hefyd fod Wil yn edrych ar bob cwestiwn o bwys o'r un safle ag oedd ef ei hun yn edrych arno; ei fod yn adnabod holl ddyhirod y gymdogaeth, ac yn ymddwyn tuag atynt fel dyn da, dewr. Ac yn fwy na'r cwbl, gwyddai fod Wil yn gyfaill iddo ef. Yr oedd wedi profi ei hun felly fwy nag unwaith. Oherwydd hyn carasai yn fawr pe gwyddai ragor am dano. Pam yr ymddanghosai mewn cynifer o gymeriadau? Pam
? Gyda hyn daeth Wil ei hun i'w ymyl wedi diosg hugan lwyd y mynach, ei sandalau, y gadwyn, a'r groes, ac yn rhyfeddach fyth, wedi newid pen eilliedig a noeth yr offeiriad, am ben gwalltog dyn cyffredin. Gwelai fod Ifor yn llawn awydd am ei holi; a rhag ofn iddo ei gwestiyna ynghylch "y mynach" mewn man y gallasai rhywun ei glywed, gosododd ei fys ar ei wefus, ac amneidiodd arno i'w ddilyn.Wedi cerdded ohonynt i lawr trwy'r dref, mynd heibio pen isaf y Castell, a chael ohonynt eu hunain ymhell allan yn nhywyllwch ac unigedd heol Caerlleon, trodd Wil at ei gydymaith, a dywed- odd mewn llais isel,—
"Mae yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti mor bwysig fel rwyn ofni hyd yn oed ei sibrwd mewn un man llai dirgel a diogel na thu ol i ddrws cloedig tŷ dy dad. Gaf i ddyfod?"
"Wrth gwrs, a llond y tŷ o groesaw!"
Ymhen ychydig yr oeddent wedi croesi hen bont bren Caerlleon, ac yn eistedd un bob ochr i'r tân, ym mhrif ystafell Glan y Don. Yr oedd Syr Urien wedi mynd i orffwys ers awr neu ddwy, a'r gwasanaethyddion i gyd wedi dilyn ei esiampl, gyda'r eithriad o Ieuan, gwas personol Ifor, yr hwn, ar ol rhoi mêdd a chwpanau ar y bwrdd, a ddilynodd aelodau ereill y teulu, gan fynd i orffwys. Ar ol ychydig funudau o ddistawrwydd, gofynnodd Wil i'w gydymaith,—
"Welaist ti arwyddion yn ddiweddar fod holl symudiadau Meistres Delyth Kyffyn, yn ogystal a'th eiddo dy hun, yn cael eu gwylio yn fanwl?"