lled ymguddiai ar y bont, ond ni chodasai ei olygon oddiar yr afon, ac ni symudasai ei law dde, yn yr hon yr oedd llawddryll yn barod i saethu, oddiar ben y mur. Erbyn hyn, yr oedd y dref ar ei law chwith yn ddistaw, a phob gole ymron wedi ei ddiffodd. Nid oedd swn na llais o unrhyw gyfeiriad yn torri ar ddistawrwydd llethol y nos, heblaw cyfarthiad ambell gi o gyfeiriad Caerlleon.[1] Ond er fod canol nos yn ymyl, parhai y gwyliwr ar y bont i syllu ar yr afon, ac yn ol pob arwydd bwriadai aros hyd nes y cyflawnai y gwaith oedd ganddo mewn llaw.
Yn sydyn, tynnodd ei hun at ei gilydd, a chododd ei olygon tua ffenestri uchaf tŵr y Castell, lle y gwelai rywbeth yn symud,—rhywbeth tebyg i ben ac ysgwyddau dynes. Funud neu ddwy yn ddiweddarach gwelai ryw wrthrych, am ymddanghosiad yr hwn, yn ol pob tebyg, y disgwyliai, yn symud yn araf a distaw ar wyneb yr afon. Wedi llwyr foddloni ei hun, mor bell ag oedd bosibl yn y tywyllwch, fod y digwyddiad oedd efe wedi dod yno i'w wylied ar gymeryd lle, gosododd ei hun mewn agwedd gwrando, a chododd ei lawddryll yn barod i saethu. Symudai y gwrthrych. tywyll yn ochelgar dros wyneb yr afon, hyd nes y daeth i ymyl. tŵr mawr y Castell, ac arhosodd yn union islaw y ffenestr o'r hon yr edrychai y person a ddaeth yno funud neu ddwy yn ol, fel un a ddisgwyliai am ddyfodiad rhywun neu rywrai, ac yn gwybod pa adeg y cyrhaeddent yno. Gwelai y gwyliwr ar bont yn lled eglur erbyn hyn mai bâd oedd y gwrthrych ddynesodd mor ddistaw, a'i fod yn cynnwys tri o ddynion,—dau rwyfwr, a rhywun arall o ymddanghosiad boneddigaidd mewn gwisg filwrol, ac yn arfog o'i ben i'w draed. Wedi cael y bâd i'r fan a ddymunai, safodd y person hwn ar ei draed, edrychodd i fyny at ffenestr y tŵr, a chwifiodd gadach gwyn. Atebwyd ef gan y person oddi fry, yr hon a chwifiodd gadach gwyn arall yr un modd.
Wedi gwrando ennyd, a thremio'n bryderus i bob cyfeiriad, cododd y milwr ei wyneb i fyny drachefn, a gofynnodd i'r un oedd yn chwifio'r cadach,—
A ydyw popeth yn barod ar gyfer nos yfory, Delyth anwyl?"
Yr unig ateb gafodd i'w gwestiwn oedd ochenaid dorcalonnus.
- ↑ Caerleon, nid Chester (Caerlleon).