llwybr yn glir, a daeth yn ei hol yr ail dro yn edrych yn union fel un a gredai iddi weld drychiolaeth. Bu bron i Delyth roddi ysgrech pan welodd ei gwyneb, ond cafodd nerth i feistroli ei hun, ac i sibrwd dan ei hanadl,
"Beth, neu pwy welaist?"
"Y mae Breddyn a Hywel yn yr amrodfa yn paffio, ac y maent mor feddw ag y gallant fod."
"Rhaid i ni fynd allan trwy ryw ffordd arall."
"Mae yn amhosibl. Oherwydd yr arfau sydd yma, nid oes yr un gongl na mynedfa heb wyliwr."
"Ac nid oes ond naw awr cyn y bydd pob cyfle am ryddid wedi cau i mi am byth. O Arglwydd, dangos i mi beth a wnaf! "
"Mi wn pa beth a wnawn. Mae dillad goreu y milwr a feddylia gymaint o honof o fewn cyrraedd. Rhaid i ti eu gwisgo, a chymeryd arnat mai ti yw y milwr sydd ar ddyledswydd yn y rhan yma o'r Castell, ac iti fod ar ymweliad â fi, dy gariad, rhaid i finnau gymeryd arnaf fod yn swil wrth dy anfon yn ol at dy ddyledswydd. Os gelli lywodraethu dy hun a newid dy lais i'r fath raddau fel ag i gyfarch Breddyn fel swyddog uwchraddol, a gofyn iddo beidio dweyd arnat, mae yn ddigon coegdybus a meddw i ti allu ei dwyllo i unrhyw raddau. Pan fyddi di yn hudo'r pennaeth, byddaf finnau yn gwneyd ffolyn o'r llall trwy addaw cwpanaid o fêdd gore'r Castell iddo ar fy nychweliad. Paid edrych mor amheus ac ofnus, os nad ydym yn ddigon cyfrwys i dwyllo y ddau hurtyn acw, nid ydym yn werth ein halen, heb son am ein rhyddid. Tyrd, cymer galon!"
"Y mae bron yn ganol nos!"
"Dyna paham yr wyf yn erfyn arnat i beidio colli amser. Unwaith heibio'r ffolion acw, byddi'n rhydd a diogel am dy fywyd. Aros yma, a byddi'n wraig i Breddyn Kemys!"
Diflannodd y mymryn olaf o betrusder yng ngwyneb y posibilrwydd ofnadwy hwn. Ymhen llai na hanner awr, aflonyddwyd ar y paffwyr prysur yn yr amrodfa gan bresenoldeb anisgwyliadwy milwr a'i gariad. Rhoddodd Megan ysgrech, a chymerodd arni ffoi pan ddaeth i olwg y ddau foneddwr, ond er meddwed oedd y ddau, rhedasant am y cyntaf ar ol y llances, ac wedi ei dal, ni wnaeth yr un ohonynt fawr sylw o'i chydymaith a'i ymddiheuriadau. Yr oedd y ddau yn adnabod Megan, ac am wybod pa le yr oedd ei meistres.