Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyffyrdda mor dyner â phrif nodweddion y "chwe' cyfoed," fel y dangosir eu neillduolion gydag un linell, weithiau hefo un gair; ac y mae'r cyfeiriadau mor gryno a chynwysfawr, fel y gellir yn briodol alw y gerdd yn fywgraffiad ar gân. A dyma yntau bellach, yr olaf o'r saith, wedi eu dilyn trwy'r glyn a thrwy'r llwyn." Byddai yn anhawdd yn bresenol yn Nghymru gynull yn nghyd gynifer o wyr doniol ag a gynullodd yr awdwr yn ei freuddwyd rhyfedd.

Tra yn preswylio yn Llanidloes, ymddangosodd pedwar cyfansoddiad o'i waith yn y Traethodydd y cyhoeddiad sydd wedi dylanwadu fwyaf ar feddwl ein cenedl er pan ddechreuodd ein llenyddiaeth; y rhan fwyaf ohono wedi ei ysgrifenu gan feddylwyr i feddylwyr; a gall yr hwn y mae'r Traethodydd ganddo o'i ddechreuad ymffrostio yn gyfiawn fod ganddo lyfrgell pe na byddai llyfr arall yn ei feddiant Yn 1866, gwelir dau ddernyn ynddo o'i waith, sef y "Fodrwy Briodasol," a fu mor anffodus, fel y nodwyd, yn Eisteddfod Aberystwyth; a math o barodi