ar yr Eisteddfod, tan yr enw "Eisteddfod Genedlaethol Pen y Fan." Yn 1868, ceir ei farwnad i Glan Alun. Cynwysa'r gân hono rai penillion neillduol o dyner a theimladol yn cyfeirio at un o deulu yr awdwr ei hun. Wrth son am lyfr dyddorol Glan Alun a elwir Fy Chwaer, dywed y farwnad:—
Yn mynwent Llanarmon mae beddfaen tros dri,
A'r olaf roed yno fy chwaer ydyw hi,
Fu neb, anwyl gyfaill, mor debyg i
Dy "Chwaer" o Gefn G'ader a'm diweddar chwaer i.
Ac os yw dy chwaer, fel crybwyllodd ei hun,
Yn edrych o'r nefoedd ar breswyl fach dyn;
Mae Jane, fy chwaer inau, yn edrych yn gun:
Cwyd yma, Glan Alun, cei weled ei llun.
Ei llygaid o'r nefoedd! Jane! anwyl Jane,
Fel yna y byddai a'i llaw ar ei gên,
A'm calon chwareuai yn mhelydr ei gwên.
Yn y lloft mae ei llyfrau rhwng gwalbant a dist,
A chant o'i llythyrau, rhai llawen, rhai trist,
Rhai'n son am y byd, a rhai'n son am Grist,
Orweddant, Glan Alun, yn ngwaelod fy nghist!
Llythyrau'th chwaer dithau gyhoeddwyd oll in',
Teilyngaist ti'r enw o frawd gyda'th bin;
Minau a bwyswyd a chafwyd fi'n brin.