Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfedd rhyngddynt ar yr esgynlawr, ac aeth y dyrfa i ysgrechain a chwerthin tros ben pob terfyn. Yn y cyfwng, daeth yr arweinydd yn mlaen yn hamddenol, ac wedi cael dystawrwydd, anogodd y cerddor i fyned â'i delyn at y tân i dwymo ei thraed -"bod yn rhaid ei bod wedi cael anwyd." Yn nghanol chwerthin y gynulleidfa, diflanodd yr offerynwr a'r offeryn, a phrysurwyd yn mlaen gyda'r rhaglen yn sobr a gweddus.

Ychydig tros bedair blynedd fu dyddiau ei drigiant yn Llanidloes; ac oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes am drafferthion ei swydd, yr oedd ganddo yno ddigon i feddwl am dano ddydd a nos. Ond yn ystod y cyfnod byr hwnw, enillodd barcha serch diragrith y trigolion, o'r ficer talentog, "Quellyn," hyd y mwyaf anwybodus yn y plwyf; y cyfoethog yn gystal a'r tlawd. Gwelem hyn yn amlwg pan yn cydgerdded âg ef trwy heolydd y dref yr oedd pawb yn ei adnabod, yn ei "syrio," ac yn dywedyd yn eu gwynebau siriol, "Dyna i chwi station-master sydd genym ni yn Llanidloes yma!" A phan deallwyd ei fod ef ar fedr ymadael, a chymeryd y swydd lai trafferthus o orsaf-feistr Towyn Meirionydd, penderfynodd gwyr y dref a'r wlad oddiamgylch ddangos eu hedmygedd ohono trwy ei anrhegu â'i ddarlun, wedi ei dynu yn y dull goreu gan feistr yn y gelfyddyd. Y mae'r oil painting hwnw yn aros yn un o greiriau anwylaf y teulu, ac yn brawf fod pobl Llanidloes yn adnabod ac yn gwerthfawrogi teilyngdod pan y delo i'w mysg.

Yn 1870, gadawodd lanau'r Hafren am dreflan dawel, lanwaith, Towyn, ar lanau'r Dysynni. Yr oedd yma fwy o yspryd llenoriaeth Gymreig o lawer nag yn Llanidloes, a llai o ofalon swyddol iddo yntau. Er fod y dyffryn yn llydan, a'r llecyn y saif Towyn arno yn wastadedd hirfaith, y mae digonedd o fanau a golygfeydd dyddorol a hanesyddol oddiamgylch;