gomiwr na'r gwr a biau nenbren Glanyrafon. Tuag ugain mlynedd yn ol, ar ein hymweliad cyntaf â'r ardal, yn nghwmni Ceiriog a'r Parch. Elias Owen, awdwr y Crosses of North Wales, sylwem wrth Mr. Bennett fod eu ffyrdd yn enbydus o ddrwg yn y wlad hono. Atebai yntau fod ffyrdd sir Drefaldwyn erioed yn ddiarhebol o ddrwg. Ac fel prawf o hyny, adroddai'r hanesyn canlynol:Fod dyn, er's talwm, yn myned ar hyd un ohonynt, ac iddo ddyfod yn ei daith at het â'i gwyneb yn isaf, ac wrth iddo geisio ei chodi, daeth llais odditani yn dweyd, " Rhowch help i mi ddwad oddiyma, da chwi." Brysiodd y teithiwr yn ei ddychryn i helpu un oedd wedi colli ei ffordd mor gynddeiriog fel ag i chwilio am dani o tan yr un iawn, a thra yn cydied yn y truan gerfydd gwallt ei ben i'w godi o'r trybini, "Howld on!" ebe'r claddedig drachefn, "byddwch yn dringar; gadewch i mi gael fy nhraed o'r gwrthaflau cofiwch fod yma geffyl o tani i." Ac felly yr oedd ffyrdd sir Drefaldwyn er's talwm mor ddiwaelod, yn ol y rhamant hon, fel y llyncent y march a'r marchog, a dianmheu yr het hefyd oni buasai fod iddi gantal lled lydan.
Daliodd y cyfeillgarwch a ffynai rhwng y ddau hyd y diwedd, ac i Mr. Bennett yr ymddiredodd Ceiriog ei ysgrifau annghyoeddedig (ac i bwy cymhwysach?) pan yn gorfod eu gadael heb eu cwbl drefnu i'r wasg.
Pan orphenwyd y tŷ yn Nghaersws, symudodd ef a'i deulu yno i fyw; ac yn y drigfa gyfleus hono o briddfeini cochion, yn sefyll wrthi ei hun, gerllaw y fan y rhed Aber Carno i'r Afon Hafren, ar fin llinell y Fan, a thua dau can' llath o linell y Cambrian, oddiallan i bentref Caersws, y treuliodd efe weddill ei oes. Saif y dreflan newydd-anedig bresenol ar fedd hen gaer Rufeinig, ffosydd ac olion eraill o'r hon sydd yn weladwy hyd heddyw. Fel llawer ardal