Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa fodd y gallodd fyw am 17eg mlynedd yn y fath le a than y fath amgylchiadau sydd tu hwnt i'n dirnadaeth; a rhaid fod bywyd didranc yn ei awen a'i flas at lenoriaeth Gymreig i allu goroesi yr awyr drom, gysglyd, farwaidd a anadlent.

Ond byw yn effeithiol a ddarfu iddynt; a chyflawnodd Ceiriog waith a fuasai yn gosod ei enw yn uchel yn mysg llenyddion ei wlad hyd yn nod ar ol cartrefu yn Nghaersws. Yr oedd diwydrwydd myfyrgar yn un o'i nodweddau mwyaf arbenig, a'i feddwl mor ddiorphwys a rhediad yr afon Hafren. Byddai ganddo beunydd rhyw gynllun ar y wê; a phe rhoddasid ar bapur y ddegfed ran o'r drychfeddyliau a greodd a'r cynlluniau a dynodd, ni chynwysai y llyfr hwn hyd yn nod eu henwau. Weithiau, yn ei flynyddau olaf, gofynai lluaws o'i edmygwyr, "Beth mae Ceiriog yn ei wneud? Ni welsom ni ddim o'i waith er's talm. Rhaid ei fod yn segura." Segura yn wir! ni bu erioed awr segur yn ei fywyd. Breuddwydiai ddrychfeddyliau; a'r dydd, pan na byddai yn ngafaelion ei fasnach, rhodiana y byddai yn mroydd hudolus awenyddiaeth. Clywsom ef adeg cyhoeddiad Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl (Tachwedd, 1883), pan yr ymgomiem, gan oedi cwsg, hyd oriau mân y plygain, yn rhoddi braslinelliad o bryddest a gyfansoddai ar y pryd. Cyffelybai y ddaear i fferm, a'r Tri Pherson yn yr Undod, ei pherchenogion, yn dyfod y naill ar ol y llall, ar ymweliad â hi. Yn nghyntaf, goruchwyliaeth y Tad, yna'r Mab, yna'r Yspryd Glân; a chan fawredd ofnadwy a beiddgarwch y drychfeddwl, efe a wylai fel plentyn. Nis gwyddom a gwblhaodd efe y gwaith hwn ai peidio. Dichon mai do; ac iddo yn y diwedd fyned yn aberth i'r tân a gymerodd le yn y swyddfa beth amser yn ol, a llosgi gydag amryw ysgrifau gwerthfawr eraill. Pa fodd bynag, yr oedd yn ddrwg genym glywed nad yw yn mysg ei bapurau annghyoeddedig.