Prawf o'i ddiwydrwydd oedd y llafur a'r drafferth a gymerodd i sefydlu urdd y "Vord Gron," a'i ymdrechion gyda "Chist-goffa Mynyddog." Mathro frawdoliaeth gyfrin oedd y flaenaf, debyg o ran natur i Free Masonry, a'i haelodau i fod yn Gymry neu ewyllyswyr dai'r genedl Gymreig. Bwriedid trwyddi ffurfio undeb rhwng llenorion a dynion blaenllaw y wlad a'r trefi Saesnig, a gwneud trefn a dosparth ar ddygiad yn mlaen ein sefydliadau cenedlaethol, yn enwedig yr Eisteddfod. Mewn copi o'r "Rheolau Cynygiedig," yn awr o'n blaen, dywedir mai ei hamcan cyntaf ydoedd "cynyrchu yn mhob cymrawd gariad at wybodaeth, cyfiawnder, a heddwch, gwirionedd, parch, ac elusengarwch." Gelwid sylw at yr annrhefn gwarthus sydd yn nglyn â dewis testynau Eisteddfodau fyth a hefyd, trwy bwyso ar bwyllgorau y cyfryw i roddi sylw dyladwy i arholiadau yn yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg, ymchwiliad i hanesiaeth a bywgraffiaeth Gymreig a hynafiaeth Brydeinig, adroddiad mewn llaw fer o areithiau yn Nghymraeg, &c. Cynygid hefyd fod y frawdoliaeth yn ei chyfarfod blynyddol i dalu ymweliad â manau o ddyddordeb hanesyddol fyddai yn yr ardal hono. Buom yn synu ganwaith na fuasai pwyllgor "Yr Eisteddfod" wedi sefydlu y pleserdeithiau hyn; treulio un diwrnod, dyweder, yn nghanol yr wythnos, er mwyn cael tipyn o seibiant ac amrywiaeth. Yn ol Rheol 33, yr oedd y Vord i uniawni pob camddealltwriaeth ac ymrafael allai godi rhwng rhai o'i haelodau a'u gilydd; ond ofnwn ddarfod i hyn beri i rai cyfreithwyr gadw draw. Pa fodd bynag, yr oedd amcanu uno holl Genedl y Cymry mewn un frawdoliaeth fawr gyfeillgar yn ddrychfeddwl campus; a phwy a ŵyr na chyflawnir ef rhyw dro. Methiant, fel y mae'n ofidus adrodd, a fu y tro hwnw, er iddo gael ei gefnogi gan amryw wyr o ddylanwad. Y cyfarfod olaf y mae genym ni hanes am dano a gynaliwyd
Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/119
Prawfddarllenwyd y dudalen hon