Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hawyd ef drachefn gyda'r arddodiad cyffredin arall, sef Dy. O ebion, arhebion, tyfodd i ddyarhebion. Fel y mae y geiriau barnu, gwedyd, noethi, llif, cymod, wedi eu cryfhau a'u gwneud yn ddyfarnu, dywedyd, dynoethi, dylif, a dygymod, yr un modd y prifiodd y gair diarhebion. Camsillebiad amlwg yw di yn lle dy, fel pe dywedem dinodi am ddynodi, neu ddifodiant (non-existence) am ddyfodiant (futurity). Y mae sillebiaeth Diarheb, fel llawer gair arall, yn mhob iaith ysgrifenedig, yn gyfeiliornus, ond wedi ei sefydlu yn ein holl eiriaduron, ac ofer heddyw fyddai ceisio ei gywiro.—Cyfansoddiadau Eisteddfod Caerdydd, t.d. 366

Cystudd a marwolaeth

Yr oedd ei enw fel beirniad ar restr testynau Eisteddfod Genedlaethol Llundain, y flwyddyn hon; ond efe, "o flaen yr wyl fel hyn 'raeth"; a phenodwyd Gwyneddon i gyflawni y gwaith yn ei le.

Cyn terfynu ein hymgais i ddodi ar gôf a chadw yr hyn a wyddem oddiar 29ain mlynedd o gydnabyddiaeth, ac a feddyliem yn onest am Ceiriog fel dyn a bardd, dylem wneud ychydig sylwadau yn rhagor ar ei Ganeuon, gan mai fel awdwr y cyfryw geinion, mae'n ddiau, yr adwaenir ef oreu yn y dyfodol, ac y cofir ac yr anwylir ei enw hwyaf. Y mae tua thri chant ohonynt yn y chwe' llyfr a gyhoeddodd; ac o'r nifer hwnw tros gant wedi eu cyfansoddi ar gyfer hen Alawon Cymreig.

Nid ydym yma wedi cyfrif yr haner cant caneuon a gyfansoddodd i Mr. B. Richards, ar gyfer y Songs of Wales, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1873-dair blynedd ar ol ei lyfr olaf ef ar wahan. Y mae yn mysg y rhai hyny ganeuon odiaeth o dlysion, megys, yr un ganlynol ar y dôn Gogerddan:—

"I B'las Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef;
Dos yn dy ol i faes y gâd,
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It' golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorph y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.

"I'r neuadd dos ac yno gwel
Arluniau'r Prysiaid pur;