Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae tân yn llygad llym pob un
Yn goleu ar y mur:
"Nid fi yw'r mab anmharcha'i fam
Ac enw tŷ ei dad;
Cusenwch fi, fy mam," medd ef,
Ac aeth yn ol i'r gâd.

Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, "O fy mab! fy mab!
O, maddeu im' O Dduw!"
Ar hyn atebai llais o'r mur:-
"Trwy Gymru tra rhêd dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr,
Na byw yn fachgen llwfr!"

Gan nad oedd efe yn gerddor yn ystyr fanylaf y gair, a bod llawer o'r tonau yn hen a dyeithr, costiodd ei ganeuon drafferth ddirfawr iddo, fel y tystia ef ei hun fwy nag unwaith. Yr oedd yn rhaid cyfaddasu y geiriau i gywair a natur y dôn; ac os gofynai hi yn ei henw am rhyw destyn neillduol yn gydmar cymhwys iddi, rhaid oedd i'r bardd eu huno mewn glân briodas; os amgen rhaid fyddai iddo chwilota am destyn arall. Ceir engraifft o'i ffawd neillduol yn y modd cyntaf yn y dull hapus yr unodd ei gân brydferth â'r hen alaw "Bugeilio'r Gwenith Gwyn," ac o'i ddawn a'i hapusrwydd yn y cyfwng olaf pan yn cyfansoddi yr "Eneth Ddall," a "Dringo'r Wyddfa," ar gyfer yr hen alaw leddf, gwynfanus, Toriad y Dydd. Yn y naill amgylchiad a'r llall, pâr i ni gofio am Gwydion ab Don yn llunio gwraig i Lew Llaw Gyffes o flodeu tecaf y coed, y maes, a'r ardd.

Y mae rhai o'r alawon yn sionc a digrifol, eraill yn alarus; rhai yn oddaith o yspryd rhyfel, rhai yn addfwyn fel chwibanogl bugail, tra eraill yn cwynfanu traserch fel y durtur. Trefnu geiriau ar gân a mydr ganadwy ydoedd gorchest y gwaith hwn; ac efe a lwyddodd y tu hwnt i'r un bardd Cymraeg arall a fu o'i flaen, neu a ddaw, ofnwn, ar ei ol