Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan fod adroddiad mor gryno a destlus wedi ymddangos am yr angladd yn Gwalia, am Mai 4, nis gallwn wneud dim gwell na'i ddyfynu:

CYMERODD claddedigaeth y bardd enwog a chlodfawredig John Ceiriog Hughes le am haner awr wedi dau o'r gloch brydnawn ddydd Mawrth diweddaf, yn mynwent Llanwnog, sir Drefaldwyn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. D. Parry, M.A., ficer y plwyf. Yr oedd trefn y claddedigaeth fel y canlyn:-Cyfeillion a chymydogion, yr elor-gerbyd, galar-gerbydau, perthynasau. Wedi cyrhaedd eglwys Llanwnog, yr hon sydd tua dwy filldir o Gaersws, chwareuwyd anthem briodol ar yr amgylchiad gan Mrs. Arthur Hickman. Darllenodd y ficer y gwasanaeth agoriadol yn Saesneg, a'r Parch. J. Hughes, y curad, a ddarllenodd I COR. xv. yn Nghymraeg. Wrth y bedd gwasanaethwyd yn Saesneg gan y ficer. Yr oedd yr arch yn un hardd iawn, wedi ei gwneud o dderw cadarn, caboledig, ac ynddi hi y gollyngwyd y bardd mawr a'r cyfaill diragrith i'r bedd. Yr oedd nifer fawr o goron-blethi ar yr arch wedi eu gwneud i fyny yn gywrain o'r blodau prydferth y canodd Ceiriog mor anwyl am danynt. Dyma y cyfan a dorwyd ar gauad yr arch:-"John Ceiriog Hughes. Bu farw Ebrill y 23ain, 1887. Oed 54ain.' Yr oedd Cymdeithas y Cymrodorion, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Rhyddseiri yn cael eu cynrychioli yn yr angladd. Derbyniwyd pellebron a llythyrau yn amlygu eu cydymdeimlad â'r teulu, a'u gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol, oddiwrth Mri. Stuart Rendel, A.S., D. Davies, Llandinam; D. Evans, M.R.C.V.S., Haverfordwest; P. W. Corrigan, Cymdeithas Freiniol Dublin; T. Marchant Williams., B.A.; Stephen Evans, Llundain; E. Rowley Morris, Llundain; W. Cadwaladr Davies, Bangor, &c.

Ar y cyntaf, dymunai yn ei ewyllys gael ei gladdu yn ymyl ei rieni yn mynwent Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac i'r "angladd fod yn un preifat." Ewyllysiai hefyd, "Gwell genyf wasanaeth Eglwys Loegr; a dymunaf yn mhellach, ar fod caniatad yr awdurdodau priodol yn cael ei ofyn i blanu ywen Wyddelig wrth ben fy medd." Yn ddiweddarach, newidiodd y dymuniad blaenaf, gan ddewis yn hytrach gael gorwedd yn mynwent y plwyf y treuliasai ei flynyddau olaf ynddo—Llanwnog. Saif y Llan bychan prydferth ddwy filldir o Gaersws, ac mewn cwm bychan, neillduedig, yn ngwaelod gallt fawr o goed, a elwir 'Glyn Mytton.' Adgyweiriwyd yr adeilad tua 25ain mlynedd yn ol, ond cadwyd yr hen oriel dderw