Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddefnyddid gynt fel côr ganu, a dodwyd hi yn ol ar draws yr eglwys rhwng y darllenfa a'r ganghell. Pan ymwelsom â'r lle fore y Sul diweddaf yn Awst, ni chlywsom fawr erioed mewn eglwys fechan wladaidd ganu melysach na phregeth amgenach. Ac islaw yr eglwys mae'r bedd hwnw a dyn ddynion ato am ganrifoedd lawer; y llecyn wedi ei dewis ar y fynwent, fel os gwel goroeswyr y bardd yn dda godi colofn i ddynodi y fan, gall ymdeithwyr ar linell y Cambrian ei gweled wrth fyned heibio. A dianmheu o hyn allan y bydd llawer Cymro wrth drafaelu heibio Caersws yn dodi ei ben allan o'r trên er mwyn cael golwg ar y "tŷ lle bu farw Ceiriog," ar y naill ochr; ac ar "Lanwnog, anenwog hyd yn hyn," fel man sydd yn cynwys llwch "prif-fardd telynegol y Cymry," ac un a dreuliodd ei fywyd i'w difyru, eu dyddanu, eu haddysgu a'u lleshau.

Yn ei gystudd diweddaf, cyfansoddodd yr englyn canlynol, gan ei fwriadu, meddir, yn feddargraff iddo ei hun:

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol:
Dyma ei lwch, a dim lol.

Clywsom aml un yn gofyn, "Tybed mai Ceiriog a'i gwnaeth? tybed mai yn ei gystudd y gwnaeth ef? ac ai tybed y bwriadai ef yn feddargraff iddo ei hun?" Pa'm? meddwn. Y mae'n wir i gyd; a'r dymuniad ar y diwedd yn gwbl gyson à natur ddihoced yr awdwr. Beth sydd gasach i ddyn gonest a geirwir na meddwl y bydd ei lwch yn gorwedd tan weniaith anwir? Gwelir ynddo hefyd wyleidd-dra cysefin y bardd wrth son am dano ei hun; cyfeiria yn y tair llinell gyntaf at y gorphenol-yr hyn a wyddai; nid oes air am y dyfodol, am yr hwn nis gwyddai ond trwy weithrediad ffydd; ac nid ar gareg fedd y dylid cyffesu ffydd, am y rheswm mai arall yno fydd yn gwneud y gyffes trosom.