Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon


Yr Ieuan Fychan o Foel Iwrch a nodir uchod, yn ol Powys Fadog mewn lle arall, a ddisgynai o Einion Efell, arglwydd Cynllaith; ac Einion o Fadog ab Maredydd, tywysog Powys Fadog; a mab oedd Maredydd i Fleddyn ab Cynfyn.

Ac er na ddichon i bob aelod o deulu tywysogaidd fod yn dywysog, a bod amser yn ei dreigliad yn chwareu ystranciau rhyfedd hefo gwehelyth pendefigion, gan ostwng yr uchel a dodi yr iselradd yn ei le, cafodd y teulu hwn o genedlaeth i genhedlaeth ei gadw ar y naill law rhag tra dyrchafiad, ac ar y llall rhag tra darostyngiad. Cyn belled ag y medrwn ni ddeall, llanwent eu cylchoedd anrhydeddus ar hyd yr oesau mewn modd anrhydeddus; ac y maent yn parhau felly hyd y dydd hwn. Cymeriad y teulu yn y wlad ydyw, "Pobl garedig, foesgar, foesol; deiliaid gwladgar, gwyrda (yeomen) grymus o gorph a meddwl." Rhai felly fuont, rhai felly ydynt, a hir hir y parhaont felly, gan gynysgaeddu eu cenedl yn awr ac eilwaith âg awenydd melusber fel y bardd enwog yr ydym, gyda llawer o bryder, wedi ymgymeryd fel hyn âg ysgrifenu cofiant byr ohono.

Yn Methodistiaid Cymru, i., 539, sonir am Richard Hughes, hen daid i Ceiriog, yr hwn oedd yn byw yn Sarffle, ffermdy tua milldir yn uwch i fynu yn y cwm na Llanarmon. Pan aeth cenadon cyntaf yr enwad hwnw i'r ardal, gwrthwynebwyd hwynt gan ragfarn