Y GATH, Y CREYR GLAS, A'R FIEREN.
ER's llawer byd o amser yn-ol, aeth y Gath, y Creyr Glas (heron), a'r Fieren i gadw fferm cydrhyngddynt; ond gwelsant yn fuan nad oedd yn talu, a phenderfynasant ei rhoddi i fynu, a rhanu'r eiddo. Cymerodd y Gath yr holl wenith fel ei chyfran hi o'r yspail; a chan fod y farchnad yn isel ar y pryd, hi a'i cadwodd nes y codai yn ei bris; ond yn y cyfamser, llwyr ddifawyd yr oll ohono gan lygod. A byth er hyny, y mae euogrwydd yn peri ofn y gath ar y llygod, ac y mae hithau am eu dyfetha am iddynt ddifa ei gwenith.
Y Creyr Glas a'r Fieren a werthasant weddill yr eiddo, gan ranu yr arian rhyngddynt. Yna'r Creyr Glas a rwymodd ei drysor ef am ei wddf, ac a aeth wed'yn i rodiana a swmera at fin afon; ac wrth lygadrythu ar ei lun yn y dwfr a dotio at ei degwch, syrthiodd ei arian i'r dyfn, ac nis gwelodd ddimai ohono mwy. A byth er hyny, y mae'r Creyr Glas yn crwydro hyd fin yr afon, gan lygadu yn ddiorphwys i'r dwfr, ac estyn ei wddf hir i chwilio am ei drysor yn y gwaelod.
Y Fieren, gan dybied y byddai hi yn gallach na'r ddau arall, a roes fenthyg ei harian i rhyw ddyn dyeithr na welodd mohono erioed na chynt na chwedyn. Annghofiodd hyd yn nod ofyn iddo ei enw, na lle ei breswylfod. A byth er hyny, pan elo unrhyw ddyn yn agos ati, hi a gymer afael ynddo, gan dybied mai iddo ef y rhoddes fenthyg ei harian.
A dyma fel y cafodd y tri hyn eu hanian.
Ai un o feibion Penybryn ydyw gwir awdwr yr aralleg hon, nis gwyddom. Hyn sydd sicr, na chlywsom ac na welsom ni mohoni o'r blaen; a bod yn resyn na buasai genym ragor o'i chyffelyb yn y Gymraeg. Gymaint rhagorach ydyw barddoniaeth rydd, ystwyth, fel hyn, na llawer o'n hawdlau llafurfawr a'n pryddestau hirwyntog.
Ei fro
Wedi taflu golwg frysiog tros hanes tylwyth y bardd, y dylanwad nesaf, o ran pwysigrwydd yn ffurfiad ei gymeriad llenyddol, ydoedd golygfeydd bro ei enedigaeth, ei thraddodiadau a'i hanes, a nodweddiad y bobl y dygwyd ef i fynu yn eu mysg. Saif Dyffryn Ceiriog yn nghwr de-ddwyreiniol sir Ddinbych; un pen iddo yn ymylu ar sir Amwythig a'r llall yn ymgolli yn nghanol Berwyn. Y mae tua 14eg milldir o hyd; ac efallai mai y lle tebycaf iddo yn Nghymru ydyw Cwm Rhondda, yn Morganwg, ond fod Dyffryn Ceiriog yn gulach; yn wir, y mae