Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn afon fawr ä'i 'r gornant fach,
Pysgotwn ar ei glenydd iach,
A phin blygiedig oedd fy mâch
Yn grog wrth edau lin."

Ymestyna tir Penybryn o'r afon i grib y mynydd; ac ar ben y mynydd hwn, gwelir ol y gwersyll y cyfeirir ato yn Cant o Ganeuon, t.d. 60, mewn cysylltiad â brwydr Crogen. Dywed yr awdwr mewn nodiad yno: "Y mae ol ei wersyll [Harri II.] mewn amryw fanau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin,. &c., ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy lle y'm ganwyd ac y'm magwyd i." Y mae cylch y gwersyll mor eang, a'r ffosydd a'r cloddiau mor fawrion,—“ yn fawr anferthol mewn adfeilion," fel y tueddir fi i gredu mai hwn yn hytrach ydoedd prif gadlys Owain Gwynedd, yn yr ymgyrch hono. Pa fodd bynag, y mae yn bigwrn mor serth o bob ochr, ond tua'r gefnen fynydd sydd yn rhedeg at y Waun, fel na feiddiasai Owain byth ymladd brwydr Crogen, a gwersyll gan y gelyn yn y lle hwn o'r tu cefn iddo.

A cherllaw yr hen wersyll, ceir olion hynotach fyth, a hynach o filoedd o flynyddau, olion mynydd tanllyd a grychlosgai hwyrach cyn i'r afon Geiriog ddechreu rhedeg. Pant crwn ydyw, tua chanllath ar ei draws a phen uwchaf y foel yn gwasanaethu fel un ochr iddo; a'i ymylon wedi llithro iddo fel y gwelir weithiau hen odyn galch mewn adfeilion. Nid oes dwfr un amser i'w weled ar waelod ei gafn; ac felly rhaid ei fod yn ei leibio ei hun. Pwy a wyr nad oddiwrth yr Etna hwn y galwyd y mynydd ar y cyntaf yn BERW-WYN?

Rhwng y foel hon a'r dyffryn, y mae'r disgyniad yn serth iawn, ac yn llanw'r edrychydd âg arswyd wrth weled gwagle mor fawr yn union odditano. Gorchuddir un rhan o'r llechwedd hwn gan goed; ar ran arall pora defaid yn y clytiau bychain o laswellt. melus sydd draw ac yma ar hyd ei wyneb; ar y drydedd ran nid ymddengys fod dim yn tyfu ond creig-