Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau a cheryg o gryn faint. Y rhan goediog a elwir y Coed Cochion; ac y mae'r allt yn y fan hono yn dra thebyg i amgylchoedd Careg y Gwalch, rhwng Llanrwst a Bettws y Coed; ac o'r ddwy olygfa, hon ydyw'r fwyaf fawreddog. Y mae ganddi hithau ei hogof, a'r ogof ei thraddodiad; canys onid i Ogof Coed Cochion yr ymdeithiodd yr Edward Puw hwnw tan chwareu ei bibgorn, ac ni welwyd ef mwy; ond cofiwyd yr alaw a chwareuai, a rhestrwyd hi yn mhlith yr Alawon Cymreig o hyny allan, tan yr enw "Ffarwel Ned Puw." Dichon fod y chwedl hon hefyd yn rhagori mewn perseinedd ar y traddodiadau synfawr sydd ar lafar gwlad am wrhydri ac ogof Dafydd Grach ab Siencyn o Nant Conwy.

Yn ngodreu y llechwedd, ac yn ei gŵr pellaf o Lanarmon, y mae hen amaethdy neillduol o hynafol; yr hynaf, meddir, yn yr holl ddyffryn. Dolwen y gelwir ef; ond myn traddodiad mai llygriad ydyw Dolwen o Dolowen; mai eiddo Owen Glyndwr ydoedd unwaith, ac y byddai'r gwron enwog yn tario. yma ar brydiau pan ar ei daith o Sycharth yn nghwm Llansilin, i'w lys arall gerllaw Corwen, yn Nglyn Dyfrdwy.

Ac ychydig yn is i lawr ar yr ochr arall i'r afon, ac yn ngenau nant ddofn sydd yn troi o'r dyffryn i'r mynydd, dyma Sarffle, lle y soniasom eisoes am dano mewn cysylltiad â thaid Ceiriog, a'i droad allan oblegyd ei Fethodistiaeth. Rai blynyddau yn ol, cyfarfyddodd aelodau y Cambrian Archæological Society yn Llangollen, ac yn eu mysg y Dr. Phennah, olrheinydd dyfal y seirphaddolwyr Phoeniciaidd yn y wlad hon. Wedi clywed am yr enw arwyddocaol hwn, aeth yr holl ffordd i Sarffle, gan ddisgwyl cael yn yr ardal rhyw ateg newydd i'w ddamcaniaeth a dywedai ar ol hyny na siomwyd ef ychwaith. Gan nad allai ymddyddan gyda'r brodorion uniaith, ofnai unwaith mai dychwelyd yn ol