Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y daeth a fuasai raid; ond yn ffodus, cyfarfyddodd â Mrs. Phœbe Hughes o Benybryn. Hi a'i cynysgaeddodd â llawer iawn o wybodaeth leol; ac wedi dychwelyd yn yr hwyr i Langollen, tystiai na welodd erioed hen wreigan fwy deallgar, ei bod yn gwybod pobpeth am hanes a hynafiaeth yr ardal, a'i Saesneg yn rhemp o dda.

Yn y llanerch lonydd, ramantus a neillduedig y ceisiwyd ei desgrifio, y treuliodd Ceiriog gyfnod dedwydd ei ieuenctyd-lle yr oedd prydferthwch dyffryn tlws a mawredd mynyddoedd geirwon yn cydgyfarfod; mewn tŷ ac iddo hanes hen; ogof, hen wersyll, ac olion llosgfynydd, i'w gweled ar dyddyn ei dad; tan ofal mam neillduol am burdeb ei hegwyddor a chryfder ei hamgyffredion; yn mysg cymydogion gwladaidd, uniaith gan mwyaf, unplyg, ond wedi eu breintio yn mhell uwchlaw gwladwyr, cyffredin â meddyliau bywiog ac â chôf llwythog hanes a choelion eu cyndadau a gwroniaid eu gwlad yn y dyddiau gynt.

Ysgol a chychwyn gwaith

Prif ddiffyg y cwm ydoedd absenoldeb addysg. Mae'n wir fod yno ysgol gwlad yn Nantyglog, a bu Ceiriog yn mwynhau hyny o fendithion oedd ganddi i'w cyfranu; ond fel y gellid disgwyl, mewn ardal mor wasgaredig ei thrigolion a Llanarmon, a dim i'r ysgolfeistr yn dâl ond ceiniocach y plant, dyfroedd digon prinion a ddarperid i'r sychedig am wybodaeth yn Nantyglog. Am ysgol ramadegol, fel y dywedir, nid oedd yr un yn nes at y fan na Chroesoswallt. Mae'n ddianmheu y gallasai ei rieni o ran moddion bydol ei ddanfon yno, er ei bod yn fyd digon caled ar amaethwyr y pryd hwnw fel yn bresenol; ond y caswir yw mai ychydig oedd nifer rhieni Cymreig, o ddeugain i driugain mlynedd yn ol, a gredent fod addysg plant yn ddaioni digymysg Tybient fod tuedd ynddo i wneud plentyn yn segur a diddefnydd, ac mai gwell o lawer iddo ddibynu ar