O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i'th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae'r awel yn droiog a blin-
Un gynes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy'n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nil troiog fy serch atat ti,
Tragwyddol yw'm serch atat ti.
Gosodwyd ei dyfais (plot) i orphwys ar ddull yr hen Gymry yn cyfleu eu meddyliau, sef mewn peithynen. Dyma ddywed Dr. Pughe yn ei Eiriadur ar y gair Peithynen:
A FRAME of writing which consisted of a number of four-sided or three-sided sticks written upon, which was put together in a frame so that each stick might be turned round for the facility of reading.
Cuddia'r bardd ei englynion serchglwyfus mewn hollt hen geubren derw oedd gerllaw y Castell, ac ar un o rodfeydd beunyddiol y rhian. Y mae hithau, yn ol gobaith y danfonwr, yn ei chanfod; yn ei darllen; ac yn myned i ddeisyf ar Hywel, y bardd, i wneud peithynen arall a cherdd serchlawn arni yn ateb i'r llall. Dyna'r ddau bellach mewn dyryswch; Myfanwy yn methu dyfalu pwy oedd ei hedmygydd awenyddol dienw, a'r bardd pa fodd i wneud cerdd ateb iddo ei hun. Ond llwydda'r awdwr cyn bo hir i'w dadrys o'u trybini, a diwedda yn hapus. iawn trwy ddangos ini yr ail beithynen o waith Ap Einion; a Myfanwy a
Ganfyddai ddwy galon gyfymyl,
Mewn cerfiad celfyddgar di wall;
"Myfanwy" yn nghanol y gyntaf,
A "Hywel " yn nghanol y llall.
Er nad yw y gân yn rhifo llawn bedwar cant o linellau, y mae yn anmheus a oes mewn iaith riangerdd odidocach o waith dyn ieuanc tan ei 26ain oed. Yr oedd amryw feirdd galluog yn cydystadlu âg ef (Glasynys oedd yr ail); ond Ceiriog a enillodd yn rhwydd a phe amgen, buasai yn hen bryd difodi