gael ei ddysgrifio. Rhaid i lofrudd fod ar ein llwybr i wneud y nos yn erch-rhaid i long fyned yn ddrylliau ac i ddyfrllyd fedd agor ei safn i gynddeiriogi y môr mawreddus—ar ryw euogddyn ar ffo yr ysgyrnyga'r creigiau—rhyw garnlladron fydd yn clywed y gwynt yn crochruo, ac felly yn y blaen. I ddarllenwyr a chanwyr barddoniaeth, llawer iawn mwy pleserus ganddynt hwy fydd cael y nos yn serenog, y môr mawr yn murmuru, a'r gwynt, "that grand old harper smote his thunder-harp of pines," y creigiau yn "wyllt garegog, muriau dedwydd Cymru odidog, a'r rhaiadr yn pynciaw, a gwres eiliaw wrth ei ddwfr grisialog. Nid yn unig y greadigaeth sydd yn cael ei desgrifio yn erchyll heb achos, ond rhai creaduriaid hefyd. Y mae yn anmheus iawn a oes y fath beth a chreadur hyll yn bod. Druan o'r mul, y penbwl, y ddalluan, y llyffant a lluaws eraill o greaduriaid prydferth yr ynys hon. Mynwes angharedig, tymher ddrwg, a chalon waeth, sydd gan y bardd hwnw fydd yn priodoli erchylldra i wrthrychau naturiol, pan na bydd amgylchiadau neu ffigyrau iaith yn ei orfodi i wneud hyny. Hyd y gellir, creder fod pobpeth yn hardd, pobpeth yn anwyl, a phob dyn yn dda.
A thra yn son am ganeuon ac yn dyfynu o waith y bardd ei farn ef ei hun am danynt, dymunem wneud un dyfyniad pellach, o'r Cant o Ganeuon. Trem ar ei weithdy a gafwyd uchod; dyn yn dangos ei waith sydd i'w weled yn yr hyn a ganlyn:
GODDEFER imi grybwyll yn y fan yma, nad oes genyf fawr o bleser gydag ysgrifenu un math o farddoniaeth, heblaw caneuon bychain o'r fath hyn; ac wrth ymgymeryd â Chyfres fel honyma nid meddwl yr wyf fod ar fy nghyfeillion angen nac eisieu am danynt, ond teimlad mwy hunangar o lawer sydd wrth wraidd yr hen galon gnawd yma,—mi fy hun sydd eisieu y pleser o'u gwneud, ac os digwydd imi roi i eraill asgwrn i'w grafu ac afal i'w fwyta, mi fy hun fydd wedi cael brasder y wledd. Os oes yma rywbeth a ddaw a gwên ar y wyneb, a gynesa y galon, a wneiff gripian tros un, neu a ddwg ddeigryn o gydymdeimlad neu o alar i gongl llygad y darllenydd, fe allai fod, ac fe allai nad oes, ond y mae yr holl bethau hyny wedi bod yn yr ystafell hon, yn llawer mwy nag y gallaf ddisgwyl iddynt fod ar aelwydydd fy nghyfeillion a'm cydwladwyr. Fy mhlant fy hun ydyw'r Caniadau, a byddwn yn dâd annaturiol pe na bawn yn teimlo trostynt, ac yn ymhyfrydu gyda hwynt yn ddwysach a dedwyddach na'm cymydogion. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fynu yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i'r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer ohonynt gadw carwriaeth, ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff y bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gâd yn galw, fe'u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw'n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cânt garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a'u cenedl.