Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i gydgenedl, ond ni cheir ei gasineb at y giwaid ysgymun wedi ei grynhoi ac mor angherddol yn ei ddigofaint yn un man ag yn y pennillion i "Garnfradwyr ein Gwlad," y rhai a welir yn Oriau'r Bore. Rhydd y bardd ei eiriau miniog, llymion, yn ngenau hen foneddwr Cymreig, ar aelwyd mewn hen balas Cymreig, pan y mae rhew-wyntoedd y gauaf yn curo'n drwm ar wydr y ffenestr, a'r drychin wedi gyru luaws o gyfeillion am ddiddosrwydd ac ymgom tan gronglwyd yr ysgwier pybyr a gwladgar.

"Trioedd carnfradwyr!" medd ef yn syn,
"Bu mwy na thrioedd o'r dynion hyn,
Yn lladd ein dewrion, yn gwerthu'n gwlad;"
A'i wefus grychodd ar "Drioedd Brad."

"Canoedd, gyfeillion, ac nid tri
O'r cyfryw Gymry fu genym ni;
Pa beth yw hanes ein hanwyl wlad,
Ond brad a dichell, dichell a brad?"

Y mae darllen y draethodl hon yn gyru dyn er ei waethaf i yspryd F'ewyrth Robert, pan y codai ei ffon yn fygythiol wrth wrando ar hanes Legree. Sylwer ar y gair "grychodd " yn niwedd y penill cyntaf, a dych'myger gymaint o ddigllonedd cymysgedig â dirmyg sydd yn gynwysedig ynddo. Dyma un o'r geiriau adeiniog hyny a welir mor fynych yn ngwaith Ceiriog, a phob pencampwr yn y gelfyddyd o fathu ymadroddion barddonol, geiriau sydd yn awgrymu mwy nag ellir ddywedyd. Ac ebe ef yn mhellach, a'i lygad ar dân gan lidiowgrwydd:—

"Nid pendro'r 'menydd, na balchder chwaith,
Sy'n blino'r Cymro a wado'i iaith;
Egwyddor brad yn ffurfio'i hun
Mewn dull diweddar sydd yn y dyn.

"Bradwyr fy nghenedl, da i chwi
Nad ydyw barn yn eiddo i mi!"
Ac fel pe'n teimlo dagr fawr
Yn nghil ei ddwrn, eisteddai i lawr.

Y mae cryn wahaniaeth rhwng y twmbren a ddefn-