Tudalen:John Puleston Jones (Trysorfa y Plant 1906).pdf/1

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PARCH. J. PULESTON JONES, M.A.

Erthygl o Trysorfa y Plant Gol Robert David Rowland (Anthropos)

Cyf. XLV Rhif. 531 - Mawrth 1906




TRYSORFA Y PLANT
MAWRTH, 1906.

Y PARCH. J. PULESTON JONES, M.A.

DYMA ddarlun o'r Parch. John Puleston Jones, M.A., Dinorwig, Sir Gaernarfon, i ddarllenwyr ieuainc TRYSORFA Y PLANT gael edrych arno, a chael gair byr o'i hanes hynod. Ganed ef yn y Berth, gerllaw Rhuthin, Chwef. 26, 1862, felly y mae eich TRYSORFA ddeufis yn hŷn nag ef. Mae y Pulestons yn hen deulu cyfrifol yn yr ardal. Cof genyf fod yn New York yn 1867, a chenyf swm mawr o arian i'w dwyn i gyfeillion yn Nghymru