Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/110

Gwirwyd y dudalen hon

Synnwyd pawb yn ddirfawr, oblegid credid bod amser lladron penffordd a feiddiai ddal i fyny y Coach Mawr wedi myned heibio bellach. Ond nid oedd modd camsyniad hwn beth bynnag, oblegid daliai i anelu ei lawddryll at galon Shams.

Wrth weled pob un yn hwyrfrydig i estyn yr arian iddo, taranodd yr un geiriau drachefn, a dynesodd ychydig gamrau at y cerbyd. Sylwodd Lewsyn ar hyn a phenderfynodd ynddo ei hun os deuai y lleidr ond dau neu dri cham eto yn nes na byddai yno na lladdiad na lladrad.

O glywed y llais yr ail waith cymerodd Lewsyn arno frysio i ddechreu chwilio ei logellau, ond ymddangosai y rheiny yn rhai neilltuol o ddwfn, neu o leiaf ei bod yn anodd iawn cyrraedd eu gwaelod. Er mwyn ei helpu ei hun yn hynny o waith, cododd Lewsyn ar ei draed a safodd ar yr ystyllen yn ffrynt y Coach, ac yn y cyfamser symudodd y lleidr ychydig yn nes drachefn.

Hynny oedd y peth y gweithiodd Lewsyn am dano, ac ar darawiad dacw ef, chwiw! yn neidio ar ben y lleidr, fel pe bae farcud yn disgyn ar golomen ac yn ei fwrw i'r llawr â phwysau ei gorff ei hun. Yr un eiliad taniwyd y llawddryll, ond aeth y bwled yn ddiniwed heibio, sydyned oedd y llam, a'r foment nesaf yr oedd yr Heliwr o Benderyn ac olynydd Dic Turpin yn ymrolio ar y llawr yng ngafael ei gilydd. Neidiodd dau o'r dewraf i lawr o'r Coach i helpu Lewsyn, a rhyngddynt oll daliasant y drwgweithredwr yn ddiogel ddigon.

Erbyn hyn yr oedd y teithwyr i gyd wedi disgyn ac yn crynhoi o amgylch yr adyn a'r rhai a'i dalient. Rhwymwyd y lleidr draed a dwylaw a gosodwyd ef i orwedd ar sach y tu ol i Lewsyn a Shams i'w ddwyn i Gasgwent i'w drosglwyddo i'r awdurdodau yno.