Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/33

Gwirwyd y dudalen hon

"Onid oedd Ianto'r Saer yn heinif heddi gyda'r bêl fach?" ebe un, ac "onid yw Twm Wern Lâs yn gwella fel neidiwr?" ebe arall. "Os dal e' 'mla'n fel hyn fe fydd yn fatch i fachan 'Berhonddu 'cyn bo hir," myntumiai'r trydydd.

Ond yr oedd y dydd yn awr yn dechreu tywyllu a'r campwyr yn dechreu blino. Ha! pwy yw yr un acw ar grib y Foel gyda rhywbeth tebig i gwrwgl ar ei gefn? Hywel Lewsyn o'r Bont, byth na chyffro i! a'i delyn gydag e'! 'Nawr am dani, boys! Noswaith o'r hen amser unwaith eto!

Rhedodd Shams Harris ac un neu ddau arall i'w helpu i gario ei offeryn, ac erbyn dychwelyd ohonynt i'r Twyn drachefn yr oedd y dorf wedi cynhyddu, ac amryw o'r rhyw deg wedi dyfod o rywle a'u traed mewn ysfa am ddechreu y ddawns.

Ond cyn gallu taflu ati mewn gwirionedd rhaid oedd i Hywel ddiosg y brethyn gwyrdd oddiam ei delyn hoff a'i osod yn garcus yn y Tafarn Isaf gerllaw, ac wrth gwrs, rhaid hefyd oedd cael "ei hun i diwn," ys dwedai efe, trwy gymryd gwydraid neu ddau fel cyffer rhag yr annwyd a'i bygythiai o groesi ohono y Foel dan ei faich.

O'r diwedd dacw fe allan ar y Twyn, ac yn eistedd ar gadair yng nghysgod gwal yr eglwys gan gofleidio ei offeryn, ac yn rhyw led-dynnu ambell dant fel rhagarweiniad i'w gerdd.

Y foment nesaf dyna gylch niferus o'r ddau ryw yn ei dawnsio hi ar y green i acen y tannau nwyfus, a chylch mawr arall o gant neu ychwaneg yn sefyll y tu ol i'r dawnswyr yn mwynhau yr olygfa. A golygfa i'w mwynhau ydoedd yn wir. Gwelid yno flodau eu hoes yn sefyll i fyny yn hoen eu hieuenctid, ac yn troedio y gwahanol symudiadau fel pe baent newydd