Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/40

Gwirwyd y dudalen hon

yn Jamaica! Fechgyn! am dano 'i 'm hunan wy' 'i ddim yn mynd i weitho 'm henaid ma's am ddiddag swllt yr w'thnos i foddhau neb, ac nid wy'n mynd i starfo chwaith! Cofiwch 'ng ngeiria, boys! 'Rwy'n gwel'd y 'cotia cochion' ishws wedi dod o fla'n yr hotel. Gadewch inni fynd lawr i gael gweld a chlywed beth gewn ni."

I lawr yr aed, ac yno ar yr heol fawr o flaen Gwesty y Castell yr oedd miloedd wedi ymdyrru, y mwyafrif, fe ddichon o gywreinrwydd i weled y Scottish Highlanders ("gwŷr y peisha bêch " fel y gelwai y Morgeinwyr hwynt) fuont yn Waterlw; ond llawer hefyd i weled beth gynhygiai y meistri o'r tu ol i'r "cotia cochion." Ar y palmant o flaen y gwesty safai y milwyr yn rheng sengl gyda'u cefnau ar y mur, ac yn gwasgu arnynt, gan lenwi yr heol o ochr i ochr, yr oedd y dorf aruthrol.

Mewn ychydig eiliadau dacw ffenestr llofft y gwesty yn agor, a'r meistri—Crawshay, Guest, ac eraill yn eu tro yn annerch y dyrfa. Siaradodd rhai ohonynt yn synhwyrol a heddychol ddigon, ond gyrrodd un arall ohonynt y cynhulliad yn wenfflam, o awgrymu yn lled ddigamsyniol mai gwell oedd i'r gweithwyr blygu mewn pryd cyn y byddai'n rhaid iddynt wneuthur hynny drwy nerth arfau.

Ar hyn wele Lewsyn yr Heliwr yn neidio yn ffyrnig at y milwr agosaf a chydag ysgogiad cyflym yn cipio ei fwsged oddiarno. Yna, gan grochwaeddi " Gwaed, neu Fara!" efe a drywanodd yr Ysgotyn â'i fidog ei hun. Am yr hanner awr nesaf yr oedd yr heol yn un câd —y dorf yn ceisio rhuthro ar y milwyr, a hwythau— fechgyn dewr bob un—yn ceisio eu dal yn ol. ac yn anad dim, i'w rhwystro i ennill drws mawr y gwesty a myned at y meistri ar y llofft.