Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/48

Gwirwyd y dudalen hon

Ond bellach yr oedd yn rhy ddiweddar. Brysiodd yr Yeomanry oedd wedi cyfarfod y coach gwyllt eisoes, ac wedi cael hysbysrwydd o'r hyn a'u harhosai ar Hirwaun, drwy y lle at the charge, gan dynnu i'r un cyfeiriad ag a gymerodd Nani ychydig funudau o'u blaen. Gwelai hi hwynt ym mhob tro heol fel pe yn ennill arni, ond daliodd i garlamu yr oll o'r ffordd, a llwyddodd i gadw ar y blaen nes cwrdd o honi â Lewsyn a'i wŷr uwchben Penrheolgerrig. Gwaeddodd ei neges atynt mewn un frawddeg llesmeiriol, ac yna helpiwyd hi oddiar gefn ei march gan ugain o ddwylaw edmygwyr.

Dilynodd terfysgwyr Hirwaun y milwyr yn araf, ond erbyn iddynt gyrraedd pen Mynydd Merthyr, yr oedd yr Yeomanry eisoes wedi eu gorthrechu a'u harfau yn llaw Lewsyn a'i lu. Pan geisiodd yr Uch-gapten Price siarad â'r blaenor ar y mynydd, a dangos afresymoldeb anturiaeth y gweithwyr, daliodd Wil Jones Fawr ei bladur uwch ei ben, a chan waeddi yn ei barabl mantachog, "Down Achms!" gorfodwyd y swyddog i roddi carn ei gledd yn llaw yr Heliwr o Benderyn.

Wedi i Beti ymweled â rhai o'i chwsmeriaid agosaf, a chael y mwyafrif ohonynt allan o'u tai, penderfynodd ddwyn y rhelyw o'i nwyddau yn ol i Hendrebolon hyd amser mwy cyfaddas i'w gwerthu. Yr oedd yr holl wlad erbyn hyn yn ferw drwyddi oherwydd y digwyddiadau ym Merthyr, ac ar Hirwaun, ac ni fynnai neb siarad am ddim arall.

Gyda chalon drom yr arweiniodd Beti yr hen gaseg i'r ystabl ar ei dychweliad, ond ceisiodd serch hynny ymddangos yn ysgafn ei hysbryd ar ei mynediad i'r tŷ at ei brodyr.

Yno yr oedd prynwr yr ŵyn yn adrodd wrthynt yr hyn a wyddai efe am yr helynt. Ymhlith pethau eraill, dywedai mai Lewsyn yr Heliwr o Benderyn oedd y blaenor; ac yn wir, mai efe ollyngodd waed gyntaf