Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/51

Gwirwyd y dudalen hon

ddyn ac anifail mewn perigl am eu hoedl. Y syndod oedd nad carcharor efe eisoes, oblegid heblaw deuglwyf arall ar ei gorff yr oedd ôl brath bidog draws ei foch yn ei gyhuddo yng ngwydd pawb o fod yn un o'r terfysgwyr. Dringodd y ffoadur heol Aberdâr am ryw ddwy filltir, hyd nes y daeth eilwaith at y man yr ildiodd yr Uchgapten Price ei gledd "Waterlw" i'w ddwylaw ef. Er trymder ei galon yn awr, ni allai lai na gwenu gyda boddhad wrth feddwl am yr amgylchiad. Pa beth bynnag ddeuai o hono ef, yr oedd y cledd hwnnw wedi ei guddio mewn man na chai neb afael ynddo byth namyn ei dylwyth ei hun.

A phan goffodd am Wil Jones Fawr yn dal y pladur ar wâr yr Uchgapten, ac yn gorchymyn y "Down Achms" digamsyniol, chwarddodd rhyngddo âg ef ei hun yn iachus. Ond nid amser i chwerthin oedd iddo ychwaith. Gwyddai fod y crocbren yn ei aros oddigerth i ryw wyrth ddigwydd yn ei hanes. Ond penderfynodd ei osgoi i'r pen pellaf, ac nid gorchwyl hawdd a addawai i'r cwnstabliaid pe unwaith y caffai ddaear Penderyn o dan ei draed.

Ar hyn trodd o'r heol fawr i dorri dros weunydd Penmeilart a'r Naint i gyrchu Mynydd Bodwigiad, lle y gwyddai am bob agen yn y creigiau ac am bob lloches y gallai ganddo ymguddio ynddi. Tarawodd ar fynydd y Glôg cyn ei bod yn dyddio, ac yn yr hesg o gylch maen anferth yr ymguddiodd am y diwrnod hwnnw. Cysgodd am rai oriau nas gwyddai pa nifer, a dihunwyd ef gan danbeidrwydd yr haul ar ei wyneb. Ni feiddiai godi ar ei draed, ac anghysurus ddigon oedd gorwedd yno fel creadur mud yn aros am fantell y nos cyn dyfod allan i rodio'n rhydd a chwilio am rywbeth i'w fwyta.

Cerddai oriau yr hirddydd hwnnw mewn esgidiau plwm, a bu ar Lewsyn fwy nag unwaith chwant codi ar ei