Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/57

Gwirwyd y dudalen hon

Ond ar y foment y llamodd lu yn ol dyna lais yr ysgelerddyn yn taro ar ei chlyw,—"Beti! Beti! peidiwch cilio o wrtho 'i! Y fi—Lewsyn Bodiccd,—sy' yma, ac yn gofyn am grwstyn o fara im—Ar hyn llewygodd y truan, a dechreuodd ei glwyf ail waedu. Yr oedd yr apêl at ei dynoliaeth a'r cyni yn y llais wedi erlid i ffwrdd bob ofn erbyn hyn. Rhedodd Beti ato, daliodd ei ben ar ei braich, gwlychodd gwr ei ffedog yn y ffrwd, a chyda'r tynerwch mwyaf glanhaodd y gwaed oddiar ei wyneb, a threfnodd ei wallt —ie'r "gwallt aur" gynt—â'i bysedd crynedig.

Sisialai rywbeth wrthi ei hun pan wrth y gorchwyl na ddaliodd neb ond angylion y wynfa ei ystyr; ac yr oedd goleuni newydd yn ei llygaid a'i gweddnewidiai yn hollol, canys yn lle yr ofn a drigai yno foment yn ol, wele bellach, ryw edrychiad gwrol a heriai fyd pe bae raid.

O deimlo y dwfr oer ar ei dalcen ymddangosodd Lewsyn fel pe ar fin dadebru o'i lewyg, ac ar hyn gosododd Beti ei ben i lawr yn frysiog a cheisiai ymagweddu fel pe na buasai wedi cyffwrdd ag ef o gwbl. Mewn eiliad yn rhagor agorodd yntau ei lygaid a syllodd arni yn hanner syfrdan fel y gwna pryfyn yr helwriaeth ar yr hwn a'i lladd, ond mewn eiliad arall taenodd gwên dros ei wyneb garw, ymaflodd yn ei llaw ac a'i gwlychodd a'i ddagrau distaw.

Gwnaeth Beti ysgogiad fel pe am dynnu ei llaw oddiwrtho, ac eto heb wneuthur hynny yn llwyr. Yntau a ddechreuodd siarad a hi gan golli ei anadl bron rhwng pob brawddeg. Dywedodd wrthi am y bywyd caled ym Merthyr, ac am driniaeth galetach y meistri. Yna rhoddodd y manylion am y "Gwaed, neu Fara!" ac am yr ysgarmesau wrth Gilsanws a Mynydd Aberdâr. Dywedodd hefyd am ei siom yn ei gyfeillion, a'i ffoedigaeth i Benderyn, y cysgu