Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/63

Gwirwyd y dudalen hon

X.—YR YSGWEIER

Y DYDD Gwener canlynol i'r ddalfa yn Hendrebolon, curwyd wrth ddrws tŷ Mari Jones (oedd yn awr yn byw ar gwr isaf pentref y Lamb) tua chanol dydd, ac erbyn ateb y drws gan Mari ei hun, yno yr oedd ei hen gyfeilles Beti ar gefn ei cheffyl, ac yn ymddangos fel pe yn dychwelyd o farchnata.

"Mari, dewch i'm hebrwng," ebe hi, "y mae isha arna'i i wilia a chi."

"Gadewch i fi gael 'm het, ac fe ddof," ebe hithau yn ol.

Erbyn i Mari ddyfod i'r drws yr ail waith yr oedd Beti wedi disgyn oddiar gefn ei cheffyl, ac yn barod i gydgerdded â hi.

Cerddodd y ddwy i fyny yn araf gan arwain y ceffyl gerfydd ei ffrwyn, ac ymddiddan yn sobr am amgylchiadau yr wythnos ryfedd honno, ac yn neilltuol am dynged Lewsyn.

Yn syml adroddodd Beti yr holl helynt am ei ddyfodiad, a'i arhosiad yn Hendrebolon, a'r modd truenus yr aeth i ddwylaw y swyddogion o'r diwedd.

"Ellwch chi feddwl am rwbath ddylswn i fod wedi wneud na wnetho i?" ebe Beti mewn tôn ofidus. "O, Mari! yr o'wn i bron torri 'nghalon wrth 'i weld e', y truan bach, yn cael 'i glymu ganddi nhw, a fynta mor dawel trwy'r cwbwl. Ddwetodd e' ddim yn gâs wrthoi, ond pan oedd y cerbyd ar fâda'l, edrychodd arno i, O mor garedig, 'roedd yn ddigon i doddi calon unrhyw un." "Beti! peidiwch gofidio, chi wnethoch y'ch gora glâs, 'rwy'n siwr," ebe Mari.

Ymddangosodd y geiriau hyn fel pe yn rhoi cysur mawr i Beti, ond meddai,—"Oes rhwbath allwn ni wneud eto, Mari, idd 'i achub e'? Mae Shams wedi