Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/68

Gwirwyd y dudalen hon

XII.—MYNED I GAERDYDD

UN bore braf yn niwedd haf 1831, pan oedd pentref Penderyn ar ddihuno i ddiwrnod newydd, gwelodd y trigolion beth na welwyd ers llawer blwyddyn, sef cerbyd mawr Plas Bodwigiad yn sefyll o flaen y Lamb gydag Ifan, yr hen wâs, mewn dillad lifrai ar y box, a'r Ysgweier mewn gosgedd weddus iawn yn sefyll yn ymyl fel pe yn disgwyl rhywun neu rywrai i'w gyfarfod yno.

Synasant yn fwy o weled drws un o'r bwthynod yn ymyl yn agor a dyn ieuanc a dwy eneth wladaidd yr olwg yn dynesu at y cerbyd, ac ar ol cyfarchiad caredig gan ŵr penna'r plwyf, yn cael eu cynorthwyo ganddo i esgyn i'w lle ynddo. Rhwbiwyd llygaid yn fawr iawn y bore hwnnw ym mhentref y Lamb er cael penderfynu mai nid breuddwyd oedd yr oll.

"Ai nid Mari Jones ydyw yr un acw? Cato'n pawb! A phwy yw y llall? Byth nad elwy' o'r fan yma, os nad yr eneth wyllt, anhebig i bawb arall, o Hendrebolon yw!"

Yr oedd cywreinrwydd bron llethu pawb, ond ni feiddiai neb fyned yn nes i'r cerbyd ac eithrio Marged Llwynonn, yn unig. Credai hi yn rhinwedd ei gwaith yn golchi ambell waith yn y Plas, y gallai gymryd y blaen ar y lleill. Ond gwell fuasai iddi beidio, oblegid pan ar fedr dweyd "Bore da, Sgweier, yr ydych wedi cwnnu'n fore," daliodd ei lygad ef hi, a rhewodd y gair ar ei min.

Neidiodd yr hen ŵr fel hogyn i'r cerbyd ar ol y lleill o'r cwmni, tarawodd Ifan ergyd â'i chwip, a dacw'r meirch porthiannus yn cychwyn yn fywiog a'u llwyth i waered y cwm.