heol neu ddwy cyn dychwelyd i'w llety erbyn amser brecwast.
Yn gywir erbyn wyth daeth yr hen Sgweier i lawr y grisiau, ac er nad oeddent yn ddigon hyf arno i ofyn iddo am y modd y cysgodd, hawdd oedd canfod wrth ei amrantau a'i lygaid cochion mai ychydig o orffwys a gafodd yntau.
Er hynny yr oedd yn llon a serchog iawn wrth ben y bwrdd, ac yn ymddangos fel pe yn mwynhau y ddarpariaeth. Ymhen rhyw ugain munud edrychodd ar ei oriawr fawr, oedd yn rhwym wrth ei seliau o dan ei vest, a dywedodd,—" Mae'n rhaid mynd!" a chyfododd pawb i baratoi.
Wedi cyrraedd clwyd fawr y Neuadd, oedd eisoes a thorf fawr yn gwasgu am agoriad, gwelodd y Sgweier y "cwnstabl neilltuol" y cyfeiriodd ato yn ymgom y llety, ac wedi ychydig o siarad a newid rhywbeth o law i law, arweiniodd y swyddog hwnnw y tri trwy ddrws yn ochr yr adeilad i ystafell eang y Prawf, a chawsant le i eistedd ychydig y naill ochr i'r Witness Box.
Y diweddaf a welsant o Gruff oedd yn cael ei osod, ymhlith rhyw ddwsin eraill, gan swyddog tal a waeddai yn awr ac yn y man,—"Witnesses This Way!"
Da iddynt fyned yn gynnar. oblegid hanner awr cyn cychwyn y gwaith yr oedd y lle yn llawn hyd y drysau, ac awyr yr ystafell yn dechreu trymhau. O'r diwedd dacw'r Barnwr i mewn, y swyddog yn galw "Silence in Court!" a phob un ar ei draed ar y gair. Hawdd oedd i'r merched hefyd sefyll oblegid yr oedd ar wyneb y gŵr mawr ryw ddifrifoldeb a chadernid oedd yn cymell parch.
Treuliwyd peth amser gyda ffurfiau arferol y llys, ac wedi cwblhau y rheiny, dygwyd y carcharorion cyntaf i fyny, ac er syndod i'r ddwy gyfeilles nid oeddynt namyn Shams Harris y Pompren, ac un arall.