Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Jones, Caernarfon. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Profwch bobpeth, a deliwch yr hyn sydd dda." Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Prin y parhaodd i orphen dwy flynedd.

Yr Ystorfa Weinidogaethol, 1838, Ystorfa y Bedyddwyr, 1838. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r Ystorfa Weinidogaethol yn Mawrth, 1838, yn cael ei gyhoeddi a'i olygu gan y Parchn. W. a D. Jones, Caerdydd, ac argrephid of gan Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd. Pedwar rhifyn ddaeth allan ohono. Un peth hynod ddyddorol, yn enwedig i'r cyfundeb a'i cefnogai, yn nglyn â'r Ystorfa Weinidogaethol, ydyw y ffaith mai ynddo ef y cyhoeddwyd y "Llythyr Cymanfa" cyntaf erioed a argraphwyd yn Nghymru. Yr oedd ei olygwyr wedi datgan eu dymuniad ar i'r cylchgrawn hwn fod yn eiddo i'r enwad, ac yn unol â phenderfyniad Cyfarfodydd Chwarterol Dinbych, Fflint, a Meirion, yn Ebrill, 1838, a phenderfyniad Cyfarfod Chwarterol Morganwg yn mis Mai, o'r un flwyddyn, daeth y cyhoeddiad hwn yn eiddo i'r enwad, a phob rhanbarth i dderbyn elw oddiwrtho yn ol y nifer a dderbynid ohono. Daeth y rhifyn nesaf allan, yn unol â'r cyfnewidiad hwn, yn Gorphenaf, o'r un flwyddyn, dan yr enw Ystorfa y Bedyddwyr. Er i'r cyhoeddiad gael ei alw ar enw newydd, ac er iddo ddyfod yn feddiant i'r cyfundeb, eto ni wnaed unrhyw gyfnewidiad yn nodwedd ei gynnwys, a'r un personau oeddynt yn parhau i'w olygu, ac yn yr un swyddfa yr argrephid ef. Rhoddwyd y cylchgrawn hwn i fyny yn lled sydyn, hyny ar gyfrif diffyg cefnogaeth, a'r rhifyn am Mehefin, 1841, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Y Cenhadydd Cymreig, 1840, Y Cenhadydd, 1841.— Cychwynwyd y Cenhadydd Cymreig yn Chwefror, 1840, gan y Parchn. W. R. a T. Davies, Merthyr, ac ar-