Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erthyglau, a'r goleuni a wasgerid drwyddo ar faterion pwysig y dydd, yn un da iawn, ac yn gadael argraph ddymunol ar y wlad, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na Rhagfyr, 1861.

Y Cymmrodor, 1862.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1862, dan nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion, dan olygiaeth, i ddechreu, y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, Llundain, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1877, ac, wedi hyny, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan Mr. Thomas Powell, M.A., Llundain. Hefyd, bu Dr. Isambard Owen, Llundain, yn ei olygu am amser, ac yna dilynwyd of gan Mr. Egerton Phillimore, Llundain. Argrephir ef, ar ran y Gymdeithas, gan y Meistri Gilbert a Rivington, St. John's House, Clerkenwell, Llundain. Ei bris ydyw haner coron. Nid ydyw yn cael ei ddwyn allan yn rheolaidd o gwbl, ac weithiau bydd pump neu chwe' mis, mwy neu lai, yn myned heibio rhwng y rhifynau, fel nas gellir, mewn gwirionedd, erbyn hyn, ei alw yn gyhoeddiad misol, chwarterol, na haner-blynyddol. Ei gynnwys, fel rheol, fydd ysgrifau ar ieithyddiaeth a henafiaethau Cymreig, ac adolygiadau ar lyfrau yn dwyn perthynas & llenyddiaeth neu hanesiaeth Cymru, &c.

Y Barddoniadur, 1864.—Cylchgrawn misol rhad ydoedd hwn, a gychwynwyd yn y flwyddyn 1864, dan olygiaeth Mr. W. Williams (Creuddynfab), Llandudno. Credwn na ddaeth allan ohono ond rhifyn neu ddau.

Yr Eisteddfod, 1864.—Er rhoddi eglurhad ar y dull y cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, dylid dyweyd fod math o gynllun, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynnaliwyd yn Llangollen, 1858, wedi ei fabwysiadu er cael yr Eisteddfod yn hollol genedlaethol yn ngwir ystyr y gair, ac i'w chynnal bob yn ail flwyddyn yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ac hefyd i gael gwell