Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei bris ydoedd swllt, a chyhoeddid ef dan nawdd y pwyllgor dywededig. Ymddengys na pharhaodd i ddyfod allan yn hwy nag am oddeutu dwy flynedd, a hyny, yn benaf, oherwydd diffyg cefnogaeth. Beth bynag arall a ellir ei ddyweyd am weithrediadau y Cynghor, credwn fod cychwyn y cylchgrawn hwn yn weithred dda iawn, a gresyn fod y fath gyhoeddiad wedi myned i lawr, a chredwn fod ei fachludiad, wrth ystyried pobpeth, yn un o'r anffodion llenyddol Cymreig mwyaf a gafwyd yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes genym yr un cylchgrawn yn un pwrpas at gyhoeddi cynnyrchion buddugol yr Eisteddfod. Gwir y cyhoeddir hwynt, ond gan fod y cyfrolau blynyddol mor ddrud, mae yn gwbl allan o'r cwestiwn i gorph poblogaeth Cymru eu gweled, ac, mewn canlyniad, nid ydyw yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn ystyr lenyddol, yn cael cyfleusdra rhydd i gyrhaedd amcanion ymarferol ei sefydliad.

Y Meddwl, 1879.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn, yn y flwyddyn 1879, gan Gwmni Cambrian, Lerpwl, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg nag oddeutu pum' rhifyn.

Y Llenor Cymreig, 1882.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1882, dan olygiaeth y Parch. J. G. Matthias, Corwen, ac argrephid ef gan Mr. T Edmunds, Corwen. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ni chyhoeddwyd ond wyth rhifyn ohono, a rhoddwyd ef i fyny.

Y Geninen, 1883.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1883, a chychwynwyd ef gan Mr. John Thomas (Eifionydd), Caernarfon, ac efe hefyd sydd yn ei feddiannu ac yn ei olygu o'r dechreu hyd yn bresennol (1892), ac argrephid ef, ar y cychwyn, gan