Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwynedd a'r Parch. D. Rees, Llanelli. Nid yw yn adlewyrchu yn dda o gwbl ar chwaeth chwiorydd ein gwlad am adael i'r Gymraes fyned i lawr mor fuan, ac ofnir fod gan yr hyn a elwir yn enwadaeth, i raddau, rywbeth i'w wneyd a'r ffaith na chefnogwyd y cyhoeddiad hwn fel y dylesid.

Y Frythones, 1879—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1879, dan olygiaeth Miss Rees (Cranogwen), Llangranog, ac argrephid ef gan y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Dywed yr olygyddes dalentog, yn ystod yr anerchiad ddechreuol:—" Y mae llawer yn cydnabod ein bod yn ymddangos mewn bwlch ar y mur a drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso. Er dyddiau y llafurus a'r anfarwol Ieuan Gwynedd, ni fu gan lenyddiaeth Gymreig yr un cyhoeddiad i ferched a gwragedd, ac nid oedd fawr o argoel fod neb yn sylwi na neb yn symud, fel o'r diwedd, wedi ein cymhell gan y cyhoeddwyr, a chan y wlad, tueddwyd ni i wneuthur prawf ar ein gallu ein hunain i wneuthur y diffyg hwn i fyny." Ceid erthyglau yn Y Frythones ar destynau tebyg i'r canlyn:—"Y Dywysoges Alice," "Y Teulu—Ymborth—Dillad—Meddyginiaeth," "Yr Arglwyddes Jane Grey," "Gwenllian Morris," "Crefyddwyr y Canol—oesau," "Claudia," "Iechyd yn y Ty," "Ystafell y Claf," "Haf a Gauaf," "Dorcas," "Anhebgorion Cartref Dedwydd," &c., ac ysgrifenid yn ddyddorol ac addysgiadol arnynt. Ystyrid ef, yn mhob modd, yn gyhoeddiad dymunol a destlus, ac yn teilyngu cefnogaeth merched Gwalia. Drwg genym i iechyd Cranogwen dori i lawr yspaid yn ol, wedi bod yn hynod ymdrechgar a llwyddiannus i ddyrchafu ei chwiorydd yn Nghymru, ond da genym ddeall, erbyn hyn, ei bod yn gwella. Rhoddodd Y Frythones i fyny ei bywyd sengl ar ddiwedd