Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu y cyhoeddiad am ychydig amser heb yr un golygydd neillduol i ofalu am dano, a chredwn mai y rhifyn am Chwefror, 1884, oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, ac felly oddeutu chwe' blynedd a fu hŷd ei oes. Deuai allan yn fisol, a dwy geiniog ydoedd ei bris. Gan fod y cyhoeddiad hwn, i raddau, yn taraw ar dant lled newydd, ar y pryd, yn llenyddiaeth Cymru, a chan fod gwir anghen, yr adeg hono, am gyhoeddiad o'r fath, cafodd dderbyniad croesawgar gan y wlad ar ei gychwyniad cyntaf, a dywedir y bu ei gylchrediad, yn ei fisoedd cyntaf, yn cyrhaedd oddeutu un-mil-ar-ddeg, ond erbyn oddeutu diwedd ei chweched flwydd yr oedd wedi gostwng llawer. Ymddengys, mewn rhan, mai cyfnewidiadau, ar y pryd, yn y swyddfa, ac mewn rhan, diffyg cefnogaeth, oedd yr achosion penaf dros ei roddi i fyny. Ystyrid y cyhoeddiad hwn, mor bell ag yr oedd yn myned, i'r amcanion y bwriadwyd ef, yn gyhoeddiad da a buddiol, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf, a diau y bu yn foddion anuniongyrchol i gael dynion blaenaf ein cenedl i roddi sylw i'r pwysigrwydd o gael llenyddiaeth arbenig ar gyfer Ysgolion Sabbothol Cymru.

Yr Ysgol, 1880.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1880, gan y Parchn. John Evans, Garston, a John Jones, 469, West Derby Road, Lerpwl (Runcorn gynt), a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef yn un pwrpas er gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Ymddengys mai y rhifyn am Mawrth, 1881, oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, fel na bu fyw ond ychydig gyda blwyddyn.

Y Llusern, 1883.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Tachwedd, 1883, dan olygiaeth y Parchn. D. C. Evans, Porthaethwy, a W. Pritchard, Pentraeth, ac argrephid ef gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Cychwynwyd ef, yn