Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

benaf, dan nawdd Cyfarfod Misol Môn. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Arwyddair y cylchgrawn hwn ydyw "Nid llai fy ngoleuni i o'ch goleuo chwi," a chyhoeddir ef yn gwbl gyda'r amcan i wasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Cymerodd cyfnewidiad le, yn nglyn âg ef, yn nechreu y flwyddyn 1889, pryd yr ymgymerwyd a'r olygiaeth a'r berchenogaeth gan y Parchn. R. Humphreys, Bontnewydd, a John Williams, Brynsiencyn, a hwy sydd yn parhau i'w olygu, ond deallwn fod y berchenogaeth, erbyn hyn, wedi ei throsglwyddo drosodd i'r cyhoeddwr ei hunan.

Y Lladmerydd, 1885.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1885, dan olygiaeth y Parcho. J. Morgan Jones, Caerdydd, ac Evan Davies, Trefriw, a gofelir am ychydig gerddoriaeth a roddir ar ddiwedd pob rhifyn gan Mr. D. Jenkins, Aberystwyth, ac argrephir ef, o'r dechreu, gan Mr. E. W. Evans, Dolgellau. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ymddengys mai oddeutu dwy fil a haner oedd ei gylchrediad y flwyddyn gyntaf, a gostyngodd ychydig yn yr ail flwyddyn, ond yn ystod ei drydedd flwyddyn, darfu iddo godi yn ei rif; a byth er yr adeg hono, da genym gael dyweyd ei fod yn cynnyddu bob blwyddyn, ac yr oedd ei gylchrediad ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn cyrhaedd oddeutu chwe' mil. Dylid cofio nad oes yr un cysylltiad swyddogol yn bod rhwng y cyhoeddiad hwn â chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, er mai yn eu plith hwy, yn benaf, y derbynir ef.

Yr Addysgydd, 1891.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Rhagfyr, 1891, dan olygiaeth y Parch. T. Manuel, Corris, ac argrephir ef gan Mr. D. Davies-Williams, cyhoeddwr, Machynlleth. Cychwynwyd ef fel cylchgrawn, yn benaf, ar gyfer maes llafur Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Talaeth Deheudir Cymru.