Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1890, ac felly Mr. Evans ei hunan sydd yn ei olygu yn awr (1892).

Y Ffenestr, 1873.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1873, dan olygiaeth y Parchn. W. Morris, Treorci, ac O. Waldo James, Aberafon (Rhosllanerchrugog ar ol hyny), ac argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. D. Griffiths, Cwmavon, ac wedi hyny gan Mr. D. Davies, Treorci. Ei bris ydoedd ceiniog, deuai allan yn fisol, ac amcenid iddo wasanaethu y plant. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu dwy flynedd.

Cydymaith y Plentyn, 1876.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1876, a chychwynwyd ac argrephid ef gan Mr. T. Davies, Pontypridd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu hyd Mai, 1877, pryd yr ymgymerwyd â'r olygiaeth hyd Mehefin, 1879, gan y Parch. B. Davies, Pontypridd, ac oddiar hyny yn mlaen gan y Meistri Thomas & Hugh Davies, Pontypridd. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog, ac arferid â rhoddi ynddo gryn lawer o ddarluniau dyddorol. Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Cyfaill y Plant, 1879, 1890.—Cychwynwyd hwn yn y fiwyddyn 1879, gan y Meistri Pearson, Lerpwl, a rhoddid darluniau ynddo, ac ymdrechid ei gyfaddasu i blant, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag oddeutu dau rifyn. Ceir, yn Ionawr, 1890, fod cyhoeddiad arall dan yr enw Cyfaill y Plant, wedi ei gychwyn dan olygiaeth Mr. R. O. Hughes (Elfyn), Blaenau Ffestiniog, ac argrephid of gan Mr. W. Lloyd Roberts, Blaenau Ffestiniog. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bwriedid iddo fod at wasanaeth plant Cymru, a chynnwysai farddoniaeth, cerddoriaeth, hanesion difyrus, a darnau adroddiadol, &c. Ond rhoddwyd ef i fyny ar ol ychydig rifynau.

Athrofa y Plant, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1881, dan olygiaeth y Parch. Evan