Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a John Jones (Ivan), o'r un lle, fel ysgrifenyddion y symudiad, a golygid of gan Mr. Robert Jones (Adda Fras), ac argrephid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth. Arferid a phriodoli cychwyniad y cylchgrawn hwn, yn benaf, i Mr. Hugh Jughes, arlunydd, Aberystwyth Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ei arwyddair ydoedd: "Gwell Addysg na Chyfoeth." Ni pharhaodd yn hir i ddyfod allan.

Yr Oes, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1843, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. David Jenkins, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwydd-air ydoedd; "A'r gwirionedd rhyddha chwi." Ystyrid ei ysgrifau yn hynod lym a miniog. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu chwe' mis.

Twr Gwalia, 1843.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1843, a chychwynwyd ef gan y Meistri Isaac Harding Harries, a Walter W. Jones, Bangor, a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Robert Jones, cyhoeddwr, Bangor. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Gyda'r rhifyn a ddaeth allan am Mawrth, 1843, ceir mai Mr. J. H. Harries, Bangor ei hunan oedd yn ei olygu. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Bod heb gablu neb." Ceid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Hunan-adnabyddiaeth," "Am y galon ddynol," "Effeithiau Cerddoriaeth," "Serenyddiaeth," "Serchiadau yr Enaid." "Anfeidroldeb y Duwdod," "Cyfoeth Prydain Fawr," "Hanes yr Afanc," "Araeth ar natur Iforiaeth," "Y Caethion," &c. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau.

Yr Amaethydd, 1845.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1845, dan olygiaeth y Parch. W. Williams (Caledfryn), a chyhoeddid ac argrephid ef gan