Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Mostyn, ac argrephir ef gan y Meistri E. Rees a'i Feibion, Ystalyfera. Golygir y farddoniaeth gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "fisolyn hollol anenwadol," ac mai "ei swyddogaeth ydyw gwyntyllu cymdeithas yn ei gwahanol agweddau."

Cymru, 1891.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Awst 15fed, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. Owen M. Edwards, M.A., Rhydychain, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac argrephir ef, dros y golygydd, gan Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, Caernarfon. Daw allan yn fisol a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyueb-ddalen, ydyw: "I godi'r hen wlad yn ei hol." Dywed y golygydd, wrth egluro ei gynlluniau yn nglyn â'r cylchgrawn, yn y rhifyn cyntaf "Bwriadwn adrodd hanes Cymru'n gyflawn, o fis i fis. Dechreuir gyda brwydr Caer, pan wahanwyd Cymru oddiwrth Ystrad Clwyd, ac ysgrifenir hanes rhyfedd ein gwlad o'r adeg hono hyd y dydd hwn. Y Rhufeiniaid, y Saeson, y Normaniaid, y Fflandrwys—dangosir pa fodd y daethant i Gymru, a pha effaith gafodd eu preswyliad arni. Y cestyll, y mynachlogydd, y tomennau, y mynwentydd sydd o'u hamgylch—ceisir adrodd eu hanes hwythau. Y cen-hadwr bore, y brawd llwyd, offeiriad y Diwygiad Protestanaidd, Piwritan y Rhyfel Mawr, y pregethwr Anghydffurfiol—deueut hwythau oll ger bron. Y ffermwr, y llafurwr, y mwnwr, y crefftwr—ceisir adrodd eu hanes yn ol eu tylwyth." Yna dywed y golygydd fod y cylchgrawn am roddi lle arbenig i'r adranau canlynol:"Cymry Byw," "Cartrefi Cymru," "Teithwyr trwy Gymru," "Cerddoriaeth," "Defnyddiau Hanes," "Beirdd Anadnabyddus," "Llenyddiaeth y